Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigYr Ymchwiliad (parhad)Y Partïon7.48 Ar wahân i'r hyrwyddwyr, mae'n bosibl y bydd llawer o bartïon gwahanol yn cyflwyno amrywiaeth o fuddiannau a safbwyntiau gwahanol mewn ymchwiliad. Bydd partïon o'r fath fel rheol yn dod o fewn un o'r tri chategori sylfaenol canlynol:
Trefn Digwyddiadau Arferol7.49 Mae'r drefn arferol ar gyfer unrhyw achos a gyflwynir gan eiriolwr gydag un tyst yn cynnwys:
7.50 Pan gaiff mwy nag un tyst ei alw, bydd pob un yn dilyn yr un drefn â'r tyst cyntaf (h.y. camau ii - v uchod) cyn i'r eiriolwr wneud ei gyflwyniad i gloi. Efallai na chaiff y cyflwyniad i gloi ei wneud hyd nes y gwrandewir ar achosion y partïon eraill. Person Heb Gynrychiolaeth7.51 Pan fydd person heb gynrychiolaeth yn ymddangos, bydd yn gweithredu fel eiriolwr a thyst, ond mae'r un egwyddorion yn berthnasol. I osgoi drysu rhwng ei ddwy rôl, dylid gofyn i'r person roi tystiolaeth ac ateb cwestiynau o fwrdd y tystion. Os yw'r person yn wrthwynebydd, dylid gwneud y datganiad agoriadol a'r datganiad i gloi o fwrdd y gwrthwynebwr a dylid croesholi tystion yr hyrwyddwr o'r safle hwnnw. Os mai dim ond datganiad y mae'r person am ei wneud ac nad yw'n cynnig ei hun i gael ei groesholi, dylid gofyn iddo ei gyflwyno'n ysgrifenedig.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |