Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Yr Ymchwiliad (parhad)

Trefn Cyflwyno Achosion

7.52 Er mwyn i bawb sydd â diddordeb yn y mater fod yn gwbl ymwybodol o'r drefn o'r cychwyn cyntaf, dylid cyflwyno achos yr hyrwyddwyr yn gyntaf, a ble bynnag y bo modd dylid dilyn hwn yn uniongyrchol gan achosion y rhai sy'n ei gefnogi. Dylai achosion y gwrthwynebwyr ddilyn, a dylai'r rhain yn eu tro gael eu dilyn gan achosion y gwrthwrthwynebwyr. Mae gan yr hyrwyddwyr hawl i gael ateb terfynol. Nodir trefn lawn y digwyddiadau ar gyfer ymchwiliadau mwy syml a chymhleth yn Atodiadau Ch a D i'r nodiadau hyn. Dylid defnyddio'r weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau mwy cymhleth lle mae nifer sylweddol o dystion ar gyfer yr hyrwyddwr a/neu lle mae nifer sylweddol o gefnogwyr neu wrthwynebwyr yn dymuno cael eu clywed yn yr ymchwiliad. Gellid caniatáu trafodaeth ar y weithdrefn fwyaf priodol i'w dilyn yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad a gall Arolygwyr ofyn i bartïon a ydynt yn bwriadu mynychu'r ymchwiliad cyfan i lywio'r penderfyniad hwn. Os ymddengys yn debygol bod partïon heb gynrychiolwyr yn dymuno mynychu'r ymchwiliad cyfan, efallai y byddai'n ddefnyddiol dewis y weithdrefn syml. Mae'r paragraffau canlynol yn cynnwys canllawiau ar agweddau amrywiol ar y broses o roi tystiolaeth a'i harchwilio.

Achos yr Hyrwyddwr

7.53 Cam cyntaf yr ymchwiliad yw cyflwyno achos yr hyrwyddwr, gan gynnwys gwrthwynebwyr yn croesholi'r tystion fel rheol. Lle ceir nifer fawr iawn o wrthwynebwyr â buddiannau gwahanol (er enghraifft, yn cwmpasu adrannau gwahanol o lwybr ffordd), na ellir disgwyl yn rhesymol iddynt fynychu'r ymchwiliad am gyfnodau hir, efallai y byddai'n well rhoi cyfle i bob gwrthwynebwr holi cwestiynau o eglurhad i dystion yr hyrwyddwr ond gohirio'r broses o groesholi. Yna, byddai'r gwrthwynebwr yn croesholi pan fydd yn dychwelyd i'r ymchwiliad i gyflwyno ei achos. Efallai y bydd yr ymagwedd hon yn gyfleus i wrthwynebwyr ond yr anfantais yw na fydd y gwrthwynebwyr yn gallu gwrando ar wrthwynebwyr eraill yn croesholi, gan arwain at ailadrodd tebygol ac ychwanegu at amser yr ymchwiliad.

Cwestiynau o Eglurhad

7.54  Weithiau mae'r ffin yn denau rhwng cwestiynau o eglurhad a chroesholi tystion. Fel rheol, dylid cyfeirio cwestiwn o eglurhad at baragraff penodol mewn proflen neu grynodeb o dystiolaeth - os na wneir hynny, yna mae'r cwestiwn fwy na thebyg yn fwy priodol i brif achos y gwrthwynebwr a dylid mynd ag ef gam ymhellach drwy groesholi.

7.55  Weithiau mae nifer y gwrthwynebwyr sy'n dymuno gofyn cwestiynau o eglurhad yn peri i'r arfer hwnnw fod yn anymarferol. Os ymddengys fod hyn yn debygol, dylai'r Arolygydd ystyried mabwysiadu ffyrdd eraill o gynorthwyo gwrthwynebwyr yn y gwaith o ddeall y dystiolaeth. Ar ôl darllen y profion o dystiolaeth ymlaen llaw, gallai'r Arolygydd lunio ei restr ei hun o gwestiynau a'i chyflwyno fel dogfen ymchwiliad (gweler 7.119 isod). Gallai'r Arolygydd fabwysiadu rôl chwilysaidd yn ystod y broses o roi'r dystiolaeth gyntaf. Dylai'r Arolygydd annog gwrthwynebwyr a'r awdurdod hyrwyddo bob amser i ymgynghori y tu allan i'r ymchwiliad ar faterion nad ydynt o ddiddordeb cyffredinol i'r ymchwiliad.

Cefnogwyr

7.56 Nid oes gan gefnogwyr yr hawl i groesholi tystion yr hyrwyddwr, er efallai y caniateir cwestiynau o eglurhad weithiau. Yn yr un modd, nid oes gan yr hyrwyddwr yr hawl i groesholi cefnogwyr ac eithrio i gael eglurhad. Fodd bynnag, mae'n well ymdrin â materion o'r fath y tu allan i'r ymchwiliad fel arfer, yn arbennig pan fydd diddordeb cyffredin. Gall cefnogwyr groesholi gwrthwynebwyr (gweler 7.62 isod).

Gwrthwynebwyr yn Croesholi Cefnogwyr

7.57  Gall gwrthwynebwyr groesholi cefnogwyr, ond fel rheol dim ond ar faterion y mae'r cefnogwyr wedi rhoi tystiolaeth neu wedi gwneud cyflwyniadau arnynt y dylent wneud hynny ac ni ddylid rhoi caniatâd iddynt eu holi ar faterion nad ydynt wedi cyfeirio atynt o gwbl. Nid yw hyn yn berthnasol i gefnogwyr fel awdurdodau lleol neu gyrff statudol, oherwydd efallai mai dim ond gan awdurdodau o'r fath y gellir cael atebion i gwestiynau penodol, y gall fod eu hangen ar wrthwynebwyr i'w galluogi i gyflwyno eu hachos yn gywir ac efallai na fydd y cefnogwyr hynny yn cyfeirio atynt wrth gyflwyno eu hachosion. Dylai'r Arolygydd ddefnyddio ei ddisgresiwn yn hyn o beth a dylai sicrhau bod gan wrthwynebwyr gyfle i ofyn cwestiynau y mae angen iddynt gael yr atebion iddynt er mwyn cwblhau eu hachosion (oni fydd cwestiynau o'r fath yn amlwg yn amherthnasol i destun yr ymchwiliad).

7.58  Gall cefnogwyr a gynrychiolir gan eiriolwr gael eu holi unwaith yn rhagor gan eu heiriolwr ar ôl cael eu croesholi gan wrthwynebwyr, a'r eiriolwr sydd â hawl i ateb yn derfynol. Dylid rhoi cyfle i gefnogwyr unigol heb gynrychiolwyr gael y gair olaf ar ôl iddynt gael eu croesholi, ond dylent fod yn ymwybodol nad yw'n gyfle iddynt gyflwyno tystiolaeth newydd.

Gwrthwynebwyr Statudol ac Anstatudol

7.59  Gwrthwynebwyr Statudol yng nghyd-destun Ymchwiliadau Priffyrdd yw'r gwrthwynebwyr hynny sydd â diddordeb personol yn y tir neu'r eiddo y byddai'r cynigion yn effeithio arnynt. Fel rheol, hwy ddylai ymddangos nesaf ac mae ganddynt yr hawl i groesholi tystion yr hyrwyddwr pan elwir arnynt i gyflwyno eu hachosion, a chyn iddynt gyflwyno eu tystiolaeth eu hunain. Dylent gael cyfle hefyd i groesholi ar ôl i'r hyrwyddwr gyflwyno unrhyw dystiolaeth wrthbrofol.

7.60  Fel rheol, gwrthwynebwyr anstatudol, h.y. y bobl hynny sydd wedi gwrthwynebu o fewn yr amser cyflwyno gwrthwynebiadau - ond nad ydynt yn wrthwynebwyr statudol, sydd yn dilyn a dylent, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, gael yr un cyfle i holi tystion yr hyrwyddwr â gwrthwynebwyr statudol.

7.61  Ni ddylai'r cwestiynau a ofynnir i dystion yr hyrwyddwr fynd y tu hwnt i sylwedd y materion a geir yn y dystiolaeth a'r cyflwyniadau a gyflwynwyd ganddynt lle bo hyn yn berthnasol i destun yr ymchwiliad. Mae paragraff 7.98 isod yn ymdrin â'r broses o holi tystion y Llywodraeth ynglyn â theilyngdod polisi'r Llywodraeth.

7.62  Mae'r gwrthwynebwyr yn atebol gael eu croesholi yn eu tro, gan yr hyrwyddwr a'r cefnogwyr, yn ogystal â chan y gwrthwrthwynebwyr i unrhyw gynigion y byddant (y gwrthwynebwyr) o bosibl yn eu cyflwyno. Dylid cyfyngu cwestiynau o'r fath i'r materion y mae'r gwrthwynebwyr wedi rhoi tystiolaeth arnynt neu wedi gwneud cyflwyniadau arnynt, ac fel rheol ni ddylid caniatáu iddynt ymestyn i faterion nad ydynt wedi cyfeirio atynt o gwbl. Gellir holi tystion yr hyrwyddwr a'r gwrthwynebwyr am yr eildro gan eu heiriolwyr ar ôl eu croesholi.

Ymateb yr Hyrwyddwr

7.63  Gall yr hyrwyddwr ateb achosion amrywiol y gwrthwynebwyr yn yr ateb terfynol ar ddiwedd yr ymchwiliad, neu gall ymateb i bob gwrthwynebwr unigol ar yr adeg y gwrandewir achos y gwrthwynebwr. Dylid galw ar unrhyw dystiolaeth y mae'r hyrwyddwr yn dymuno galw arni i wrthbrofi'r dystiolaeth a roddwyd gan wrthwynebwr ar y cam hwn. Mae tystiolaeth o'r fath yn atebol i gael ei chroesholi yn y dull arferol a phan gwblheir y broses hon, mae gan y gwrthwynebwr hawl i gael ateb terfynol.

Gwrthwrthwynebwyr

7.64  Fel rheol, dylai gwrthwrthwynebwyr ymddangos ar ôl y gwrthwynebwyr y maent yn gwrthwynebu eu cynnig amgen, ond byddant fel rheol yn holi'r gwrthwynebwyr pan fydd y gwrthwynebwyr hynny yn cyflwyno eu hachosion. Mae'n bosibl i wrthwrthwynebwyr holi'r hyrwyddwr, ond ni ddylid caniatáu i'w cwestiynau iddynt gael eu defnyddio fel modd o ennyn cefnogaeth ar gyfer eu hachosion. Mae gwrthwrthwynebwyr yn agored i gael eu holi gan y bobl hynny y maent yn gwrthwynebu eu cynigion, ac yn ôl yr arfer, mae ganddynt yr hawl i holi am yr eildro ac i gael ateb terfynol.

7.65  Gall rhai gwrthwrthwynebwyr fod yn wrthwynebwyr ac yn wrthwrthwynebwyr i gynigion amgen gwrthwynebwyr eraill - ac felly gallant ymddangos ddwywaith yn yr ymchwiliad, yn gyntaf fel gwrthwynebwyr ac yn ail fel gwrthwrthwynebwyr. Os mai dim ond unwaith y bydd partïon o'r fath yn ymddangos, bydd y gwaith o groesholi ychydig yn fwy cymhleth ond yn parhau i ddilyn yr un patrwm cyffredinol.

Pan nad yw Glynu'n Gaeth at y Drefn Bob Amser yn Bosibl

7.66  Yn ymarferol, efallai na fydd yn bosibl glynu'n gaeth wrth drefn y digwyddiadau a amlinellir yn Atodiadau Ch a D oherwydd ni all bob parti sicrhau eu bod ar gael ar unrhyw adeg benodol, ond mae bron bob amser yn bosibl dilyn y patrwm cyffredinol.

Camau Gweithredu gan yr Arolygydd cyn yr Arferir yr Hawl i Gael Ateb Terfynol

7.67  Yn amodol ar y sylwadau ym mharagraffau 7.6 - 7.8 uchod, cyn i'r hyrwyddwr gyflwyno ei ateb terfynol dylai'r Arolygydd ofyn a hoffai rhywun gael ei glywed. Os felly, dylid gwrando ar y person, ar yr amod bod ganddo rywbeth perthnasol i'w ddweud nad yw'n ailadroddus na'n rhwystrol. Dylai'r Arolygydd wirio hefyd, mewn tystiolaeth benodol neu gyffredinol, bod yr hyrwyddwr wedi ymateb i'r holl gynrychioliadau ysgrifenedig (gweler 7.107 a 7.108 isod).

7.68  Cyfyngir yr hawl i ateb i ymateb i'r gwrthwynebiadau a wneir. Ni ellir rhoi unrhyw dystiolaeth newydd. Nid yw'n gyfle i'r hyrwyddwr ailadrodd yr holl gyflwyniadau a dylid atal unrhyw ymgais o'r fath i ailadrodd. Os bydd yr hyrwyddwr eisoes wedi ymateb i wrthwynebwyr unigol pan oeddent yn cyflwyno eu hachosion (gweler 7.63 above ), nid oes angen iddo wneud hynny eto. Os bydd y gwrthwynebwyr wedi gadael yr ymchwiliad, mae'n debygol mai ateb terfynol byr ynglyn â'r gwrthwynebiadau cyffredinol fydd y cyfan fydd angen ei wneud.

Camau Gweithredu Cau Achosion gan yr Arolygydd

7.69  Ar ôl clywed ateb yr hyrwyddwr, dylai'r Arolygydd fodloni'i hun nad oes unrhyw fusnes anorffenedig a bod holl ddogfennau'r ymchwiliad, gan gynnwys y rhestr(au) presenoldeb wedi'u cyflwyno. Yna dylai'r Arolygydd wneud trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad o'r safle yng nghwmni rhywun arall (os bwriedir cynnal un) ac yn olaf, dylai gyhoeddi bod yr ymchwiliad wedi cau.

7.70  Effaith cyhoeddi bod yr ymchwiliad wedi cau yw na all yr Arolygydd glywed na derbyn unrhyw gyflwyniadau na thystiolaeth bellach, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig. Dylid gwahodd unrhyw un sy'n awyddus i wneud cynrychioliadau pellach eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn hyn, ni ellir derbyn unrhyw dystiolaeth na chyflwyniadau yn ystod archwiliad o safle ar ôl ymchwiliad ac ni all unrhyw beth y bydd yr Arolygydd yn ei glywed, gael ei gynnwys yn ei adroddiad (ond gweler Rhan 8 isod).

7.71  Efallai y bydd y partïon i'r ymchwiliad yn gofyn pryd y gallant ddisgwyl penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Unwaith y bydd yr adroddiad wedi'i ysgrifennu a'i gyflwyno, bydd y mater y tu hwnt i afael yr Arolygydd a'r Arolygiaeth Gynllunio, ac felly mae'n amhosibl rhoi arwydd o ddyddiad tebygol y penderfyniad. Ni ddylai Arolygydd hyd yn oed roi cynnig ar amcangyfrif y dyddiad y caiff penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gyhoeddi.

7.72  Fodd bynnag, gall yr Arolygydd roi awgrym o'r dyddiad y bydd yn cyflwyno ei adroddiad. Dylai'r Arolygydd roi ei amcangyfrif o ddyddiad dechrau'r wythnos y disgwylir i'r adroddiad gael ei anfon gan yr Arolygiaeth Gynllunio at yr Ysgrifennydd Gwadol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylai'r Arolygydd ystyried yr amser cyflwyno adroddiad a ddyrannwyd/gofynnol, rhaglenni gwaith ac unrhyw ymrwymiadau eraill. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r Arolygydd gynnwys cyfnod o dair wythnos i alluogi'r camau gweinyddol angenrheidiol i gael eu cymryd o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio. Gan ystyried yr holl ffactorau hyn, dylai'r Arolygydd allu darparu amcangyfrif sy'n rhesymol ddibynadwy o'r dyddiad cyflwyno gan ddefnyddio'r ymadrodd wythnos yn dechrau .

7.73  Ar gyfer ymchwiliadau hir a chymhleth, mae'n bosibl y bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi dyddiad dros dro. Gall y partïon gael dyddiad amcangyfrifedig gan grwp cymorth yr Arolygiaeth Gynllunio ar gais.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English