Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau
i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig
Ymchwiliad (parhad)
Croesholi
Hawl i Groesholi
7.94 Dim ond i'r prif
bartïon (yr hyrwyddwr a'r gwrthwynebwyr statudol) y mae'r Rheolau
Gweithdrefn Ymchwiliadau yn rhoi'r hawl i groesholi pobl sy'n rhoi tystiolaeth
mewn ymchwiliad. Fel rheol, dylai'r Arolygydd ganiatáu i bartïon
anstatudol holi tystion yn yr un modd. Yn y naill achos neu'r llall, dylai'r
cwestiynau fod yn briodol, yn berthnasol ac nid yn rhy ailadroddus.
Cyfyngu ar
Gyfathrebu rhwng Eiriolwyr a Thystion
7.95 Ni ddylai eiriolwr,
ac eithrio â chaniatâd cynrychiolwyr yr ochr wrthwynebol neu'r
Arolygydd, gyfathrebu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ag unrhyw dyst
ynglyn ag achos, p'un a yw'r tyst yn gleient lleyg iddo ai peidio, unwaith
y bydd y tyst hwnnw wedi dechrau rhoi tystiolaeth hyd nes bydd y tyst
hwnnw wedi gorffen rhoi ei dystiolaeth. Felly, os bydd seibiant (megis
i ginio neu dros nos) ar ôl i dyst ddechrau rhoi tystiolaeth, ni
fydd y tyst hwnnw, heb ganiatâd, yn gallu cysylltu â'i eiriolwr
ynglyn â'i achos. Mae'n arfer da cadw hyn mewn cof wrth benderfynu
ar amseru'r seibiannau. Weithiau, mae'n well cael seibiant cynnar yn hytrach
na dechrau gwrando ar dystiolaeth gan dyst newydd na fyddai modd iddo
orffen rhoi tystiolaeth cyn y seibiant nesaf; neu mae'n synhwyrol parhau
am ychydig hwy nag arfer cyn y seibiant nesaf er mwyn i dyst penodol orffen
rhoi ei dystiolaeth.
Cyfyngu
ar Gefnogwyr
7.96 Nid yw'r Rheolau Gweithdrefn
Ymchwiliadau, sy'n awdurdodi'r hyrwyddwr yn ogystal â'r gwrthwynebwyr
statudol i groesholi tystion, yn gwahaniaethu rhwng tystion sy'n cefnogi
ac yn gwrthwynebu eu hachosion priodol. Dylai'r Arolygydd, er hynny, gyfyngu
ar y gwaith o gwestiynu tystion cyfeillgar i'r gwaith o egluro ffeithiau
lle bo'r rhain yn berthnasol (gweler
7.56 uchod); nid yw gofyn barn gyfeillgar yn groesholi. Fodd bynnag,
dylai'r Arolygydd geisio osgoi atal unrhyw un sydd fel arall yn gyfeillgar
rhag croesholi tyst yn anfwriadol ynglyn â rhyw agwedd ar achos
y tyst hwnnw a allai gael effaith andwyol ar fuddiannau'r darpar holwr.
Osgoi
Croesholi
7.97
Ni all tyst ar gyfer yr hyrwyddwr neu gorff cyhoeddus sy'n ymddangos
mewn ymchwiliad osgoi cael ei groesholi ar faterion perthnasol o fewn
ei allu neu ei arbenigedd drwy hepgor unrhyw gyfeiriadau atynt yn ei dystiolaeth.
Fodd bynnag, gall y tyst ofyn i dyst arall sy'n fwy cymwys i siarad gael
ei alw neu ei alw am yr eildro i ateb yn ei le.
Arolygydd
yn Ymyrryd
7.98
Dylai'r Arolygydd fod yn barod i ymyrryd, fel sy'n ofynnol o dan
y Rheolau, os bydd o'r farn bod y gwaith o holi tystion y Llywodraeth
yn dechrau crwydro i faes teilyngdod polisi'r Llywodraeth, gan gynnwys
methodolegau a fabwysiadwyd, safonau dylunio a thybiaethau economaidd
a bennir yn genedlaethol neu ragolygon o dwf mewn traffig. Nid yw'r rhain
yn faterion i'w dadlau mewn ymchwiliadau lleol (gweler
6.3 uchod).
Cyfyngu
ar Groesholi
7.99
Mae'n rhaid i'r hyrwyddwyr, neu unrhyw gorff cyhoeddus arall sy'n
ymddangos mewn ymchwiliad fod yn barod i sicrhau bod rhywun ar gael i
ateb unrhyw gwestiynau perthnasol, a dylid rhoi rhyddid sylweddol i aelodau'r
cyhoedd heb gynrychiolwyr o ran y modd y byddant yn mynd ati i ofyn cwestiynau.
Fodd bynnag, dylai'r gwaith o groesholi tyst fel rheol fod yn gyfyngedig
i gwestiynau perthnasol ar y materion y mae'r tyst hwnnw wedi rhoi tystiolaeth
arnynt. Yn ogystal, dylid caniatáu i'r hyrwyddwyr a'r gwrthwynebwyr
statudol groesholi aelodau'r cyhoedd sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad.
Dylai'r Arolygydd sicrhau na chynhelir unrhyw groesholi mewn ffordd fygythiol
neu ymosodol.
7.100
Mae'n bosibl y cwestiynir statws proffesiynol tyst ond nid ei gymeriad,
ac ni ellir gorfodi tyst i ateb cwestiwn a fyddai'n argyhuddol. Yn wir,
ni ellir gorfodi'r tyst i ateb unrhyw gwestiwn, ond byddai'n fater i'w
drafod pe byddai tyst yn gwrthod ateb cwestiwn dilys neu berthnasol.
7.101
Dylai Arolygwyr fod yn ymwybodol y gallai croesholi fod yn gysylltiedig
â chais am gostau, na chaiff ei wneud tan ddiwedd yr ymchwiliad.
Felly, mae'n rhaid gwrando ar groesholi o'r fath er ei fod o bosibl yn
amherthnasol i deilyngdod yr achos.
Gwrthod
Ateb Cwestiynau
7.102
Gall tystion wrthod ateb cwestiwn ar y sail y gallai'r ateb eu
hargyhuddo hwy neu eu priod; hynny yw, efallai y bydd perygl o gyhuddiad
troseddol neu ryw fath o gosb neu fforffediad. Yr Arolygydd fydd yn penderfynu,
yng ngoleuni'r amgylchiadau, p'un a oes gan y tyst seiliau rhesymol dros
deimlo'n bryderus. Mae'n arfer i'r Llysoedd rybuddio tystion nad ydynt
yn rhwymedig i ateb cwestiwn os byddai'r ateb yn eu hargyhuddo, ac mae'n
hanfodol i'r Arolygydd ddilyn yr arfer hwn.
Ail-holi
7.103
Diben ail-holi tyst yw galluogi eiriolwr y tyst i egluro pwyntiau
am y dystiolaeth a roddwyd eisoes a/neu geisio gwneud iawn am unrhyw argraff
anffafriol a grëwyd o ganlyniad i'r croesholi. Ni ddylid caniatáu
i eiriolwyr ofyn cwestiynau arweiniol i'w tystion, hynny yw, cwestiynau
sy'n awgrymu ateb penodol.
7.104
Ni ddylid cyflwyno mater newydd wrth ail-holi tyst, ond os gwneir
hynny, dylid ei drin fel tystiolaeth newydd sy'n atebol i groesholi pellach.
|