Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigYmchwiliad (parhad)Rheoli'r TrafodionCyfrifoldebau'r Arolygydd7.112 Diben ymchwiliad cyhoeddus yw i'r Arolygydd gasglu'r holl wybodaeth berthnasol i'w alluogi i baratoi adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i cynhelir yn gyhoeddus er mwyn i'r dystiolaeth gael ei harchwilio'n gywir ac yn agored. Fodd bynnag, nid yw ymchwiliad cyhoeddus yn fath o gyfarfod cyhoeddus, ac ni ddylai'r Arolygydd ganiatáu iddo fod yn gyfle i unrhyw un fynychu a mynegi ei farn ar unrhyw beth: hynny yw, cynhelir yr ymchwiliad yn benodol er budd yr Arolygydd, ac ni ddylai buddiannau ehangach neu bersonol y cyhoedd yn gyffredinol ddargyfeirio diben neu gwmpas yr ymchwiliad. 7.113 Dylai trefn y digwyddiadau fod o dan reolaeth lawn yr Arolygydd a dylai ymddangos felly. Ni ddylai'r Arolygydd byth eistedd yn ôl a gadael i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen ei hun. Ni ddylid gadael i'r partïon gymryd yr awenau; yr Arolygydd sy'n dechrau pob cam o'r trafodion. Ni ddylai'r Arolygydd ganiatáu i bobl siarad oni chânt eu gwahodd i wneud hynny. Er hynny, dylai'r Arolygydd ganiatáu i'r partïon gyflwyno eu hachosion yn eu ffyrdd eu hunain, gan ymyrryd dim ond i atal anghysondebau o ran y weithdrefn, gormod o ailadrodd a phwyntiau amherthnasol, risg o anghyfiawnder neu ymosodiadau llafar ar gymeriad person, neu i geisio eglurhad o unrhyw bwynt nad yw wedi'i ddeall. Os bydd yn rhaid i'r Arolygydd ymyrryd, dylai wneud hynny'n gwrtais ac yn ystyriol, gan osgoi bod yn orymyrgar. Wrth geisio cael eglurhad ar bwyntiau dylai'r Arolygydd fod yn ofalus hefyd nad yw'n ymyrryd yn ormodol ar yr achos a gaiff ei gyflwyno. Yn hytrach nag ymyrryd pan fydd rhywun ar ganol traethu, mae'n well aros am adeg addas. Cwestiynau Arweiniol7.114 Ni ddylai'r Arolygydd ganiatáu i eiriolwyr ofyn cwestiynau arweiniol am faterion y ceir dadlau yn eu cylch, ac eithrio pan fydd tyst yn anghyfeillgar. Partïon Heb eu Cynrychioli7.115 Dylai Arolygydd fod yn barod i gynorthwyo unrhyw barti nad yw wedi'i gynrychioli sydd wedi dewis cynnal ei achos eu hun ac sydd yn profi anawsterau, ond heb greu'r argraff bod yr Arolygydd yn ochri gydag ef. Dylid diogelu tystion nad ydynt wedi'u cynrychioli rhag cael eu croesholi'n ormodol, a dylai'r Arolygydd sicrhau eu bod yn deall y cwestiynau a ofynnir iddynt bob amser. Tystiolaeth Ailadroddus7.116 Er mai cyfrifoldeb yr Arolygydd yw gwrando ar bob tystiolaeth berthnasol, dylai'r Arolygydd atal yr un dystiolaeth rhag cael ei hailadrodd, ac felly osgoi gwastraffu amser yr ymchwiliad. Os gwnaed pwynt eisoes gan un tyst nid oes unrhyw ddiben mewn clywed yr un pwynt dro ar ôl tro - nid yw ailadrodd yr un pwynt yn ei wneud yn fwy pwysig. Felly, dylai'r Arolygydd ymyrryd yn gwrtais pan fydd o'r farn bod tystiolaeth yn cael ei hailadrodd, a dweud ei fod eisoes wedi nodi'r pwynt. Dylid annog trigolion lleol neu grwpiau â diddordeb tebyg i ddod at ei gilydd a phenodi un siaradwr. Os bydd pob aelod o'r grwp yn mynnu o ddifrif dweud rhywbeth, gellid cyfyngu ar hyn i ddweud eu bod yn cytuno â phopeth y mae'r siaradwr wedi'i ddweud. Croesholi Ymosodol7.117 Dylai'r Arolygydd fod yn ystyriol o statws, gallu a phrofiad pob tyst ac efallai y bydd angen iddo roi'r gorau i groesholi sy'n mynd y tu hwnt i arfer derbyniol. Disgwylir i dystion proffesiynol ymdopi â chwestiynau parhaus ac weithiau ymosodol, ond gall hyd yn oed y tystion hyn gael eu drysu a rhoi atebion difeddwl o dan bwysau. Os bydd yr Arolygydd o'r farn bod hyn yn digwydd, dylid cynnig rhywfaint o ddiogelwch i'r tyst ac amser i ddod atynt eu hunain. Eiriolwr yn Gwrthwynebu Natur Cwestiynau neu'r Modd y Caiff Cwestiynau eu Holi7.118 Weithiau, bydd Eiriolwyr yn gwrthwynebu'r natur neu'r modd y caiff cwestiwn ei holi i un o'u tystion wrth gael ei groesholi, ond os bydd y cwestiwn yn berthnasol, ni ellir ei anwybyddu. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai Arolygwyr awgrymu bod y cwestiwn yn cael ei ofyn mewn ffordd wahanol i waredu neu leihau'r tramgwydd. Dylai'r Arolygydd fod yn barod i ofyn cwestiynau mewn ffordd wahanol, yn arbennig y rhai a ofynnir gan bobl nad oes ganddynt gynrychiolwyr neu pan fydd perthnasedd cwestiwn yn aneglur. Cwestiynau gan yr Arolygydd7.119 Dylai'r Arolygydd, fel rhan o'i waith paratoi ar gyfer yr Ymchwiliad, baratoi rhestr o gwestiynau ar faterion y mae'n gwybod y dylent gael eu cynnwys yn ei adroddiad, o gofio naill ai meini prawf y ddeddfwriaeth a ddefnyddir i gynnal yr ymchwiliad, neu er mwyn esbonio materion technegol. Wrth gwrs, efallai y caiff y pwyntiau hyn eu hateb naill ai yn y dystiolaeth a roddir yn gyntaf gan y tyst neu eu bod wedi cael eu codi wrth groesholi. Fodd bynnag, os bydd materion heb eu datrys o hyd, yna dylai'r Arolygydd achub ar y cyfle i ofyn ei gwestiynau ei hun os bydd angen mwy o wybodaeth arno . Dylai'r Arolygydd wneud hyn cyn gynted â phosibl yn yr Ymchwiliad os bydd wedi sylwi ar fwlch yn y dystiolaeth a gyflwynwyd ymlaen llaw.7.120 Dylai cwestiynau gan yr Arolygydd gael eu geirio mewn modd diduedd; ni ddylent ymddangos ar ffurf croesholi cyfeillgar, arweiniol nac ymosodol (gweler hefyd 7.54 uchod). Ni ddylent godi cywilydd ar y tyst na datgelu gwendidau'r tyst. Fodd bynnag, dylai fod yn ofynnol i'r tyst ateb y cwestiynau os ydynt o fewn ei faes penodol o arbenigedd neu ddiddordeb . 7.121 Mae paragraff 7.49 uchod yn awgrymu y dylid cadw cwestiynau'r Arolygydd hyd nes bydd y tyst wedi cael ei ail-holi gan yr eiriolwr. Fel arall, efallai yr hoffai'r Arolygydd ofyn ei gwestiynau cyn yr ail-holi, neu roi cyfle i'r eiriolwr ail-holi'r tyst ar ôl cwestiynau'r Arolygydd. Fodd bynnag, yn achos y dewis olaf, dylai'r Arolygydd sicrhau y cyfyngir y gwaith o ail-holi i'r materion hynny a gwmpesir gan yr atebion a roddir yng nghwestiynau'r Arolygydd ei hun. Braint Gymwysedig7.122 Mae ymchwiliadau yn fraint gymwysedig, er mwyn i ddatganiadau a wneir yn ddidwyll a heb falais gael eu diogelu yn erbyn trafodion difenwi. Efallai y byddai herio cymhwysedd proffesiynol tyst yn briodol. Ceir tybiaeth bod unrhyw un sy'n ymddangos mewn ymchwiliad yn gwneud hynny i helpu'r ymchwiliad ac felly mae'n cyflawni dyletswydd gyhoeddus. Ar y llaw arall, dylai'r Arolygydd ymyrryd os bydd unrhyw un yn ymddangos fel pe bai'n ceisio manteisio ar ei statws yn yr ymchwiliad i ddweud rhywbeth a allai fel arall arwain at bosibilrwydd o achos o athrod. Dylai'r Arolygydd nodi, os bydd unrhyw un yn gwneud datganiad mewn ymchwiliad cyhoeddus heb gredu ei fod yn wir gyda'r bwriad o beri niwed i berson arall, byddai defnyddio braint gymwysedig fel amddiffyniad yn annhebygol o fod ar gael mewn trafodion difenwi a wneir gan y person hwnnw. Ni ddylid cynnwys sylwadau enllibus nac athrodus yn adroddiad yr Arolygydd - hyd yn oed fel dyfyniadau uniongyrchol. Ymchwiliadau yr Amherir Arnynt7.123 Mae rhai ymchwiliadau mawr yn eithaf cyffrous. Gellir disgwyl hyn pan fydd pobl yn teimlo bod rhywbeth sy'n bwysig iawn iddynt mewn perygl. Yn yr amgylchiadau hynny, gallant fynd yn swnllyd. Ni ellir goddef ymddygiad o'r fath mewn ymchwiliad cyhoeddus os bydd yn aflonyddu ar y trafodion a pheri i bobl sy'n awyddus i gael dweud eu dweud deimlo'n ofnus neu'n swil. Felly mae'n rhaid i'r Arolygydd gadw rheolaeth ar yr ymchwiliad er mwyn iddo barhau'n dawel ac yn llyfn. Gall ceisio rheoli ymchwiliad pan fydd yn cynnwys pobl aflonyddgar fod yn anodd; ond dylai'r Arolygydd geisio canfod achosion yr anfoddhad bob amser. Drwy ymdrin â'r bobl hyn yn ddiymdroi ac yn deg a thrwy esbonio ei swyddogaeth ei hun, dylai'r Arolygydd allu ennyn hyder yr holl bartïon. 7.124 Os bydd pobl yn parhau i fod yn aflonyddgar, efallai y bydd yn rhaid iddynt gael eu rhybuddio er budd cynnal ymchwiliad trefnus, y bydd yn ofynnol iddynt adael os na fyddant yn rhoi'r gorau i ymddwyn yn y fath fodd. Dylid cyfeirio at y Rheol berthnasol sy'n galluogi Arolygydd i ofyn i berson aflonyddgar adael, er enghraifft, Rheol 24(7) yn achos ymchwiliad a gwmpesir gan Reolau Priffyrdd (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1994. Hyd yn oed cyn cynnwys darpariaeth o'r fath mewn rheolau, cadarnhaodd y Llys Apêl fod gan yr Arolygydd bwer i ddiarddel gwrthdystiwr sy'n aflonyddu ar yr ymchwiliad. ( Lovelock v Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth (1979) ). Mae'n rhaid i'r Arolygydd ddweud y bydd yn ystyried unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig a gyflwynir gan y person a waharddwyd cyn diwedd yr ymchwiliad. 7.125 Os na all yr Arolygydd dawelu pethau ac nad yw ychydig funudau o seibiant ar gyfer ymbwyllo yn effeithiol, dylai'r Arolygydd ohirio am gyfnod byr, neu dros nos, er mwyn gwneud trefniadau pellach. Bydd y rhain yn dibynnu ar amgylchiadau megis p'un a yw'r heddlu eisoes wrth law. Ni ddylid parhau â'r ymchwiliad mewn anhrefn, ac efallai y bydd angen gofyn i'r heddlu fynychu'r ymchwiliad pan fydd yn ailddechrau. Bydd yr Arolygydd yn penderfynu mewn ymgynghoriad â'r heddlu pa gamau gweithredu i'w cymryd. Mae'n bosibl y bydd yr heddlu'n awgrymu cyfyngu ar gamau gweithredu i ddangos presenoldeb; efallai y byddant yn dymuno annerch y bobl sy'n bresennol, neu siarad ag unigolion; neu efallai y byddant yn mynd â phobl o'r ymchwiliad os bydd dulliau eraill yn aflwyddiannus wrth adfer trefn. Dylid hysbysu'r Arolygiaeth Gynllunio pan fydd yr heddlu wedi cael eu galw. Sesiynau Bwrdd Crwn7.126 Ar gyfer ymchwiliadau hwy a mwy cymhleth, er enghraifft, lle ceir cynigion amgen, efallai y bydd yn ddefnyddiol ystyried rhannau o'r trafodion fel sesiwn y bwrdd crwn - sy'n debyg i wrandawiad, gyda dim ond tystion technegol yn gwneud cyfraniadau mewn ymateb i drafodaeth a gaiff ei harwain gan yr Arolygydd. Dim ond fel modd i egluro pwyntiau technegol y dylid defnyddio sesiynau o'r fath - naill ai ddod i ddealltwriaeth gyffredin o dechnegau modelu traffig (dyweder), neu'r modd y paratowyd tystiolaeth dechnegol arall. Mae'n debyg na fyddai'n ddull priodol o gymodi ymagweddau gwahanol, ond yn ddull o ddeall pam bod safbwyntiau gwahanol yn cael eu llunio ar sail yr un dystiolaeth neu o dystiolaeth debyg: er enghraifft, lle y gallai'r rhain fod o ganlyniad i ddehongliadau technegol gwahanol neu anghydnaws. Nid yw'n arferol i eiriolwyr fynychu sesiynau o'r fath, gan na fyddai croesholi'n briodol. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i'r Swyddog Rhaglen gymryd nodiadau o'r pwyntiau a wneir gan beri i'r Arolygydd fod yn rhydd i gyfeirio'r trafodaethau. Dylid paratoi nodyn o'r sesiwn bwrdd crwn yn gyflym (dros nos os yn bosibl) fel dogfen ymchwiliad. Gallai eiriolwyr gwrthwynebol felly sicrhau bod tystion ar gael i'w croesholi ar eu tystiolaeth mewn sesiwn ymchwiliad lawn ar ddyddiau dilynol. Dylai Sesiynau Bwrdd Crwn fod yn agored i bawb eu mynychu a'u harsylwi. 7.127 Mae'r rheolau gweithdrefn ymchwiliadau ar gyfer apeliadau cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ac ymgeiswyr cynllunio baratoi a chyflwyno datganiad tir cyffredin cytûn bedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad. Nid oes unrhyw ofyniad cyfatebol yn y rheolau gweithdrefn ymchwiliadau ar gyfer priffyrdd. Er hynny, mae'n ddefnyddiol os bydd partïon yn cytuno ar wybodaeth ffeithiol am y cynnig a data amgylcheddol cefndirol a data arall y tu allan i'r ymchwiliad. Gall cynnwys y data hwn mewn datganiadau cytûn, fel dogfennau craidd yr ymchwiliad mae'n debyg, arwain at brofion o dystiolaeth byrrach ac ymchwiliadau byrrach. 7.128 Bydd sut y deuir i gytundeb o'r fath yn dibynnu ar natur a chymhlethdod y cynnig a'r materion i'w hystyried. Lle mai dim ond dau neu dri phrif barti sy'n gysylltiedig a lle bo'r materion yn weddol syml, mae'n bosibl y bydd yr Arolygydd yn annog y partïon yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad i ddod at ei gilydd gyda'r nod o gynhyrchu datganiad ffeithiau cytûn. Ar gyfer ymchwiliadau pwysig, efallai y bydd angen trefniant mwy ffurfiol, yn arbennig lle y disgwylir i nifer o bartïon gyflwyno tystiolaeth dechnegol yn yr ymchwiliad. 7.129 Mae sefydlu 'Cyd-grwpiau Data' yn ymagwedd sydd wedi profi i fod yn ddefnyddiol cyn i ymchwiliad agor. Gweithgorau bach yw'r rhain, lle y caiff pob parti i'r ymchwiliad ei gynrychioli, a byddent yn ymgymryd â'r dasg o gasglu a chytuno ar ddata sylfaen sy'n berthnasol i faes penodol o'r ymchwiliad, e.e. swn, traffig neu ecoleg. Mewn achosion cymhleth iawn, efallai y bydd hefyd yn briodol sefydlu Cyd-weithgor, wedi'i gadeirio gan Arolygydd neu Arolygydd Cynorthwyol neu Ddirprwy Arolygydd, i gydlynu a monitro gwaith y Cyd-grwpiau Data unigol. Cynghorir Arolygwyr sy'n ystyried sefydlu Cyd-grwpiau Data a/neu Cyd-weithgor i gysylltu â'r Arolygiaeth Gynllunio am ragor o gyngor. 1, 40 P&CR 336, 78 LGR 576, [1980] RVR 236, [1980] JPL 817
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |