Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Rôl arolygydd mewn ymchwiliad

4.1 Dyletswydd sylfaenol Arolygydd yw cynnal ymchwiliad i ffeithiau'r materion perthnasol ger ei fron. Drwy wrando ar y dystiolaeth a'r cyflwyniadau, darllen y prawf, y datganiadau a'r cyflwyniadau a wneir a gofyn cwestiynau pan fo angen, bydd yr Arolygydd yn gallu ysgrifennu a chyflwyno adroddiad sy'n cynnwys pwyntiau amlycaf yr achosion y gwrandawyd arnynt, ynghyd â chasgliadau sy'n arwain at yr argymhelliad y bydd yr Arolygydd yn ei wneud.

4.2 Mae ymchwiliad yn rhan o'r broses weinyddol ar gyfer gwneud gorchmynion a'u cadarnhau. Mae'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybod am ffeithiau'r mater. Mae'n gyfle i wrthwynebwyr statudol ac eraill y byddai'r cynnig yn effeithio arnynt fwyaf gael eu clywed ac iddynt gyflwyno eu safbwyntiau i'r Ysgrifennydd Gwladol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4.3 Gwaith yr Arolygydd yw casglu'r holl wybodaeth berthnasol a'i chyflwyno, ar ffurf crynodeb, i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylai'r Arolygydd osgoi gadael materion heb eu datrys ar ôl i'r ymchwiliad gau lle mai'r unig ffordd o fynd i'r afael â hwy'n foddhaol fyddai i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru ohebu â'r partïon am gyfnod maith - neu hyd yn oed ail agor yr ymchwiliad. Gall gohebu o'r fath arwain at oedi cyn cyhoeddi'r penderfyniad. Dylai'r Arolygydd sicrhau yr eir i'r afael â phob mater cysylltiedig neu ganlyniadol sy'n ymwneud â'r cynllun arfaethedig (gan gynnwys goblygiadau unrhyw newidiadau posibl) - yn y dystiolaeth ac yng nghanfyddiadau a chasgliadau'r adroddiad - ac y deuir i gasgliad ar unrhyw gytundeb, cyfnewidiadau neu rwymedigaethau angenrheidiol cyn diwedd yr ymchwiliad.

4.4 Fel y nodir ym mharagraff 2.6 uchod, mae'n rhaid i bob ymchwiliad gael ei gynnal yn agored, yn deg ac yn ddi-duedd. Mae'n ddyletswydd ar yr Arolygydd i sicrhau y rhoddir cyfle teg i'r holl bartïon gyflwyno eu hachos. Mae'n rhaid i'r Arolygydd osgoi cyswllt ag unrhyw barti yn absenoldeb pobl eraill ac ni ddylai fyth roi ei hun mewn sefyllfa lle yr ymddengys amheuaeth ynghylch rôl ddi-duedd yr Arolygydd. Mae angen gwrthrychedd barnwrol, ynghyd â sylw cwrtais i bob un yn ei dro. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, dylai pob parti (ac eithrio unrhyw un sydd â'r bwriad o oedi neu aflonyddu ar drafodion) fod yn fodlon ei fod wedi cael gwrandawiad teg.

4.5 Gweler Rhan 7 hefyd (paragraff 7.41 ymlaen) a chyfrifoldebau'r Arolygydd o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English