Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigCyflwyniad1.1 Mae'r nodiadau hyn yn ymwneud ag ymchwiliadau lleol cyhoeddus i gynlluniau a gorchmynion a wneir o dan Ran II a Rhan XII Deddf Priffyrdd 1980, Rhan X Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Caffael Tir 1981. Mae'r egwyddorion cyffredinol hefyd yn berthnasol i ymchwiliadau cyhoeddus statudol ac anstatudol eraill y gelwir ar Arolygwyr i'w cynnal. Mae paragraff 1.2 isod yn manylu ar fathau penodol o ymchwiliadau nad yw'r nodiadau hyn yn berthnasol iddynt. 1.2 Ymhlith y gorchmynion sydd o fewn cwmpas y nodiadau hyn mae gorchmynion ffyrdd (llinell) a ffyrdd ochr, gorchmynion prynu gorfodol cysylltiedig, gorchmynion cau, systemau cludiant tywysedig a gorchmynion llwybr beiciau. Yn benodol, nid yw'r nodiadau'n berthnasol i ymchwiliadau sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio neu hawliau tramwy, gan gynnwys gorchmynion llwybrau cyhoeddus a gorchmynion mapiau diffiniol. Mae canllawiau manwl ar wahân ar gynnal ymchwiliadau o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 yn cael eu paratoi i ategu'r canllawiau mwy cyffredinol hyn. Lle y bydd y nodiadau hyn yn groes i unrhyw Ddeddf, Offeryn Statudol neu ofyniad cyfreithiol arall, dylid rhoi blaenoriaeth i'r olaf. 1.3 Ni wahaniaethir rhwng cynlluniau a gorchmynion yn y nodiadau hyn: dylid ystyried bod y gair gorchymyn yn golygu cynllun a gellid ystyried bod y ffurf unigol yn golygu'r ffurf luosog. Mae pob ymchwiliad yn ymchwiliad lleol cyhoeddus. Yn gyffredinol, dylid ystyried bod cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y nodiadau hyn yn golygu'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar gyfer cynlluniau ffyrdd awdurdodau lleol. Ar gyfer gorchmynion cefnffyrdd, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Prif Ysgrifennydd Gwladol rôl ar y cyd[1] (er hyn, cyfeirir at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' drwyddi draw a dylid ystyried bod hynny'n berthnasol i amgylchiadau lle y cyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth neu lle ceir cyfrifoldebau ar y cyd). Yng Nghymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arfer y rhan fwyaf o'r pwerau a arferwyd yn flaenorol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. [2] , [3] Mewn rhai achosion, gellid ystyried bod y geiriau Ysgrifennydd Gwladol/Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn golygu'r Fwrdeistref berthnasol yn Llundain. 1.4 Yn dilyn Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999, Trafnidiaeth Llundain, gweithredwr trafnidiaeth y Maer, yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer un o rwydweithiau ffyrdd pwysicaf Llundain - ffyrdd Awdurdod Llundain Fwyaf. Diffinnir y rhwydwaith yng Ngorchymyn Dynodi Ffyrdd Awdurdod Llundain Fwyaf (Diwygio) 2000. Mae'r rhwydwaith yn seiliedig ar y rhwydwaith llwybr coch a rhwydwaith y prif lwybr gyda rhywfaint o addasu i ystyried ffyrdd newydd a chyda rhai ffyrdd ychwanegol yng nghanol Llundain, Docklands, Croydon a Kingston . Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i fod yn gyfrifol am draffyrdd a rhai ffyrdd eraill sy'n cysylltu â'r rhwydwaith cenedlaethol. Mae pob cefnffordd arall yn Llundain Fwyaf wedi dod yn ffordd Awdurdod Llundain Fwyaf. Mae gan y Maer bwer o dan Adran 14B Deddf Priffyrdd 1980 i wneud gorchymyn yn cyfarwyddo y dylai ffordd Awdurdod Llundain Fwyaf ddod yn ffordd fwrdeistref neu y dylai ffordd fwrdeistref ddod yn ffordd Awdurdod Llundain Fwyaf. Yn y ddau achos, mae'n rhaid i'r fwrdeistref dan sylw roi caniatâd. Lle y gwrthodir caniatâd, yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn penderfynu p'un a ddylid cadarnhau'r gorchymyn ai peidio, gyda neu heb newid. 1.5 Dylai Arolygwyr nodi yn achos Gorchmynion Cau yn Llundain, cyfeirir yr adroddiad i'r fwrdeistref berthnasol yn Llundain. 1.6 Mae'r Llywodraeth yn ymwneud â thraffyrdd a chefnffyrdd ar ddwy lefel - fel hyrwyddwr ac fel corff sy'n gwneud penderfyniadau. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd yn Lloegr. Yr Asiantaeth Priffyrdd sy'n hyrwyddo cynlluniau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr ymchwiliad. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth/Prif Ysgrifennydd Gwladol sy'n gwneud y penderfyniadau ar ôl yr ymchwiliad. Yng Nghymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n hyrwyddo cynlluniau traffyrdd a chefnffyrdd ac yn gwneud y penderfyniadau ar ôl yr ymchwiliad. Er mwyn bod yn ddiduedd, nid yw'n ddymunol yn yr achosion hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol/Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddewis yr unigolion i gynnal yr ymchwiliadau hefyd. Felly, cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus sy'n ymwneud â gorchmynion sy'n gysylltiedig â thraffyrdd a chefnffyrdd gan unigolion a benodir fel Arolygwyr at y diben penodol o gynnal ymchwiliadau o'r fath. 1.7 Gall ymchwiliadau sy'n ymwneud â gorchmynion a wneir gan awdurdodau lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, neu Ddeddfau perthnasol eraill, ac nad ydynt yn ymwneud â thraffyrdd a chefnffyrdd, gael eu cynnal naill ai gan Arolygwyr y telir ffi iddynt, neu gan Arolygwyr sy'n gyflogedig gan yr Arolygiaeth Gynllunio neu sy'n gweithio dan gontract iddi gan nad yw'r Llywodraeth yn ymwneud â hyrwyddo gorchmynion. Gwneir penderfyniadau o ran p'un a ddylid cadarnhau gorchmynion o'r fath gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 1.8 Mae'r nodiadau hyn yn cynnwys canllawiau ar y gweithdrefnau a argymhellir ar gyfer ymchwiliadau mawr lle y mae'n bosibl y caiff sawl parti ei gynrychioli'n gyfreithiol. Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwiliadau'n llai, yn fyrrach ac yn fwy syml ac felly gellir symleiddio'r gweithdrefnau'n briodol. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i sicrhau y gwrandewir yn briodol ar wrthwynebiadau, ac na roddir y sawl sy'n gwrthwynebu o dan anfantais yn sgîl anwybodaeth o'r rheolau neu ddiffyg gwybodaeth. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hefyd yn awyddus i sicrhau y cynhelir ymchwiliadau mewn modd didrafferth ac effeithlon. Nod y canllawiau hyn yw cyflawni hynny. 1, Yr Offeryn statudol perthnasol yw Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a'r Rhanbarthau) 2002 - OS 2002 Rhif 2626 2, Yr Offeryn statudol perthnasol yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, OS Rhif 672 . 3, Dylai'r rhan fwyaf o'r talfyriadau yn y nodiadau hyn fod yn hunanesboniadol ond darperir rhestr gyfeirio yn Atodiad L.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |