Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd ArbennigCwmpas yr YmchwiliadY Gorchmynion gerbron yr Arolygydd6.1 Dylai'r Arolygydd gofio bob amser yr hyn y'i penodwyd i ymchwilio iddo ac felly yr hyn y mae'n ofynnol iddo wneud argymhellion arno . Dylai'r Arolygydd sicrhau ei fod yn cyfyngu ei ystyriaeth i faterion o fewn cwmpas yr ymchwiliad a gochelu rhag ehangu'r ystyriaeth honno i faterion nad ydynt wedi'u cynnwys yn uniongyrchol yn y gorchmynion. Yn achos ymchwiliad i orchmynion atodol neu amrywiol, ni ddylai'r Arolygydd ganiatáu i faterion y gwnaed penderfyniad arnynt eisoes ar ôl ymchwiliad blaenorol gael eu hailagor. Er enghraifft, nid yw ymchwiliad i wrthwynebiadau i gynnig atodol i adeiladu cyfnewidfa ar draffordd, y mae ei llinell wedi'i phennu ar ôl ymchwiliad blaenorol, yn darparu unrhyw fath o gyfle i ailagor y cwestiwn sy'n ymwneud â llinell y draffordd. Er hynny, dylai unrhyw gynrychioliadau a wnaed yn ysgrifenedig yn y cyd-destun hwn gael eu derbyn a'u hatodi wrth adroddiad yr Arolygydd. Mae paragraff 6.22 isod yn ymdrin â'r pwynt hwn o ran cyfyngiadau'r dystiolaeth mewn ymchwiliadau i Orchmynion Prynu Gorfodol. Polisïau a Methodolegau, Safonau Dylunio, Tybiaethau Economaidd a Rhagolygon Twf Traffig y Llywodraeth6.2 Nid yw teilyngdod a seiliau
polisïau, methodoleg, safonau dylunio, tybiaethau economaidd a rhagolygon
twf traffig a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth yn faterion i'w dadlau mewn
ymchwiliadau. Mae'n rhaid i unrhyw ddadleuon yn eu cylch gael eu cynnal
ar lefel genedlaethol. Mae hyn yn amlwg o ddatganiad yn Nhy'r Arglwyddi
ar 25 Chwefror 1976 (Atodiad A
i'r Nodiadau hyn) a dyfarniad yr Arglwydd Diplock yn achos Bushell
ac Arall v Ysgrifennydd Gwladol yn Nhy'r Arglwyddi ar 7 Chwefror 1980
(Atodiad B). Nid yw'r sefyllfa
wedi cael ei newid gan unrhyw bolisi neu ddyfarniad diweddarach.
6.4 Mae datganiad am bolisïau perthnasol y Llywodraeth fel rheol wedi'i gynnwys gyda'r ddogfennaeth arall a gynhyrchir gan yr Adran Drafnidiaeth neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn agor ymchwiliad i Orchymyn a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Disgwylir i gynrychiolwyr y Llywodraeth mewn ymchwiliad allu esbonio'r polisïau perthnasol pan fydd yr Arolygydd yn tybio y bydd angen iddynt wneud hynny. Nid yw'n ofynnol iddynt eu cyfiawnhau na'u hamddiffyn. 6.5 Efallai y bydd gwrthwynebwyr yn anghytuno â pholisi'r Llywodraeth ond nid oes fawr o bwynt caniatáu trafodaeth fanwl ar anghytundeb o'r fath. Mae dyletswydd yr Arolygydd wedi'i chyfyngu i nodi'r gwrthwynebiad a sicrhau nad yw'n cymryd gormod o amser yr ymchwiliad nac yn tynnu sylw oddi wrth y prif faterion. Os bydd gwrthwynebwr yn benderfynol o fynd ar drywydd gwrthwynebiadau i bolisi cyffredinol y tu hwnt i gyfyngiadau rhesymol, dylid ei gynghori i gyflwyno ei farn yn ysgrifenedig naill ai i'r Arolygydd, a fydd yn amgáu'r ddogfen gyda'i adroddiad, neu'n uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 6.6 Mae'n rhaid i Arolygwyr wahaniaethu rhwng y gwrthwynebiadau hynny sy'n herio polisi'r Llywodraeth a'r rhai sy'n cwestiynu'r angen am y cynnig penodol. Mater i'r ymchwiliad yw'r ddadl ynghylch p'un a yw cynnig penodol yn cydymffurfio â pholisi'r Llywodraeth ai peidio neu p'un a oes angen cynnig o'r fath i weithredu polisi'r Llywodraeth a dylid rhoi sylw gofalus iddo gan yr Arolygydd. 6.7 Dylai'r Arolygydd sicrhau bod gwrthwynebwyr ac eraill yn ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu methodoleg sylfaenol a safonau dylunio a'u cymhwyso. Nid yw'r ffaith bod dadleuon sy'n ymwneud â methodolegau a safonau dylunio a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth yn amhriodol mewn ymchwiliad yn awgrymu na ellir profi'r ffordd y cânt eu cymhwyso i unrhyw gynnig penodol yn drylwyr. Felly, er na ddisgwylir i dystion y Llywodraeth neu dystion awdurdod priffyrdd lleol amddiffyn neu gyfiawnhau rhagolygon cenedlaethol a safonau dylunio cyffredinol, mae disgwyl iddynt allu cyfiawnhau eu rhagwelediadau a'u haseiniadau o ran traffig. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |