Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Cwmpas yr Ymchwiliad (parhad)

Dilysrwydd yr Ymchwiliad

6.8 Os caiff dilysrwydd yr ymchwiliad ei herio o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â gofynion statudol, dylai'r Arolygydd glywed barn pob parti. Oni pheryglwyd buddiannau unrhyw rai o'r partïon yn ddifrifol, dylai'r Arolygydd geisio parhau â'r ymchwiliad hyd yn oed os oes nam cydnabyddedig. Efallai y byddai cyhoeddiad i'r perwyl hwn yn ddefnyddiol mewn amgylchiadau o'r fath.

Perthnasedd y Cyflwyniadau a'r Dystiolaeth a Gyflwynir

6.9 Mae'n rhaid i Arolygydd ystyried yr holl ddadleuon sy'n berthnasol i'r gorchymyn penodol ger ei fron. Fodd bynnag, bydd yr Arolygydd yn ymwneud yn bennaf â'r cyfiawnhad dros y gorchymyn ac effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynigion penodol, yng nghyd-destun cydbwyso achos yr hyrwyddwr ag achos y gwrthwynebwyr.

6.10 Yr Arolygydd sy'n penderfynu faint o ddadl i'w chlywed ynglyn â beth, yn ei farn ef, sy'n amherthnasol i'r materion hollbwysig. Bydd astudiaeth o'r ddeddfwriaeth alluogi, ac yn enwedig yr elfennau hynny ohoni sy'n nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Arolygydd eu defnyddio wrth wneud ei ddyfarniad, yn paratoi'r Arolygydd ar gyfer arfer disgresiwn. Fel rheol, mae'n well i'r Arolygydd glywed ychydig mwy nag sydd ei angen nag atal cyfranogwyr rhag cyfeirio at faterion sydd yn eu barn hwy yn berthnasol.

6.11 Dylid caniatáu rhywfaint o ryddid i wrthwynebwyr nas cynrychiolir sy'n gwyro oddi wrth y pwynt, ond dylid gwirio os byddant yn gwyro'n rhy bell neu os byddant yn amlwg yn gwastraffu amser yr ymchwiliad. Dylid gofyn i'r rheini yr ymddengys eu bod yn dibynnu ar ryw dystiolaeth neu ddadl y cred yr Arolygydd eu bod yn amherthnasol sut y maent yn gysylltiedig â'r meini prawf yn eu barn hwy, fel nad ydynt yn gadael yr ymchwiliad yn meddwl eu bod wedi gwneud pwynt grymus, pan na fydd yr Arolygydd, mewn gwirionedd, yn rhoi llawer o bwys arno. Os bydd gwrthwynebwr o'r fath eisoes wedi cyflwyno prawf o dystiolaeth ysgrifenedig, efallai y bydd yr Arolygydd yn awgrymu mai dim ond y rhannau perthnasol ohono y dylid eu hystyried yn yr ymchwiliad.

6.12 Os caiff y broses o dderbyn tystiolaeth neu ddadl ei herio a bod gan yr Arolygydd amheuaeth yn ei chylch, y peth gorau i'w wneud yw derbyn y dystiolaeth neu'r ddadl dan sylw. Dylai'r Arolygydd ddweud y caiff y mater ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â barn yr Arolygydd ei hun, er mwy i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu p'un a ddylid ei ystyried ai peidio wrth ddod i benderfyniad.

Ystyried Addasiadau Awgrymedig a Chynigion Amgen

6.13 Mae Atodlen 1 Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi'r pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru addasu gorchymyn cyn iddo gael ei wneud neu'i gadarnhau. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awyddus i wneud hynny, mae paragraffau 8(3) a 15(3) yr Atodlen honno yn nodi lle y cynigir arfer y pwer hwn i'r graddau y gwneir newid sylweddol i'r gorchymyn, bod yn rhaid i unrhyw berson y mae'r addasiadau arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt gael cyfle i wneud cynrychioliadau.

6.14 Mae ailgyfeirio cynllun yn gyfan gwbl neu gyfran sylweddol ohono yn debygol o fod yn gyfystyr â newid mawr na ellid ei ystyried fel addasiad at ddibenion paragraffau 8(3) neu 15(3). Yn y pen draw, mater i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu arno yw hwn a gallai arwain at y gwaith o gynhyrchu gorchmynion newydd gan yr hyrwyddwr.

6.15 Y naill ffordd neu'r llall, mae angen i'r Arolygydd gael yr holl wybodaeth am unrhyw addasiadau awgrymedig neu gynigion amgen er mwyn i'r holl ffactorau perthnasol fod yn hysbys pan fydd yn bryd i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud y penderfyniad.

6.16 Ar ôl clywed yr achosion, efallai y bydd yr Arolygydd am argymell y dylid gwneud (neu gadarnhau) gorchymyn gydag addasiadau penodol. Neu, efallai y bydd yr Arolygydd am argymell na ddylid gwneud (na chadarnhau) gorchymyn. Mae rhagor o ganllawiau ym mhwynt 9.51 isod. Nid yw'r Arolygydd mewn sefyllfa i wneud argymhelliad ar gynigion amgen. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Arolygydd eu deall yn ddigon da i allu penderfynu p'un a yw'n werth ymchwilio iddynt ymhellach. Pe bai'n dod i'r casgliad y gellid cyfiawnhau'r cynnig sydd gerbron yr ymchwiliad o ran egwyddor, gallai'r dadleuon yn erbyn ei leoliad neu'i ddyluniad beri i'r Arolygydd wneud argymhelliad i'w wrthod.

6.17 Mae Adran 258(2) ac Atodlen 1, Paragraff 19, Deddf Priffyrdd 1980 yn nodi lle y caiff ymchwiliad ei gynnal, y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad y dylai gwrthwynebwr sy'n bwriadu honni y dylai'r ffordd arfaethedig ddilyn llwybr amgen gyflwyno gwybodaeth ddigonol am y dewis amgen arfaethedig i alluogi'r llwybr i gael ei nodi. O dan y Rheolau gweithdrefn ymchwiliadau, mae'n rhaid cyflwyno'r wybodaeth hon o fewn cyfnod a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd o leiaf 14 diwrnod cyn i'r Ymchwiliad ddechrau. Os oes unrhyw wrthwynebwr wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol cyn i'r cyfnod penodedig ddod i rym, dylid ystyried bod y gwrthwynebwr wedi cydymffurfio â'r hysbysiad.

6.18 Os bydd gwrthwynebwr wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath, o dan ddarpariaethau Paragraff 19 Atodlen 1 Deddf Priffyrdd 1980, gall yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddiystyru'r gwrthwynebiad hwnnw. Serch hynny, wrth benderfynu ar gamau gweithredu dylai'r Arolygydd gael ei arwain gan yr egwyddor y dylai wrando ar unrhyw beth sy'n berthnasol sydd yn mynd i'w alluogi i ddod i'r penderfyniad cywir. Ar y llaw arall, gallai'r ffaith y cyflwynir manylion y cynnig amgen yn hwyr olygu nad oes digon o amser i'r hyrwyddwyr roi ystyriaeth haeddiannol iddynt. Yn bwysicach byth, gallai olygu na fydd digon o amser i rybudd digonol gael ei roi o'r dewis amgen i'r rhai y byddai'n effeithio arnynt.

6.19 Nid yw'n ddyletswydd ar yr hyrwyddwyr neu unrhyw un arall i hysbysu'r sawl y byddai dewisiadau amgen awgrymedig i lwybrau arfaethedig, yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, er budd cyfiawnder naturiol credir y dylid hysbysu pobl o'r fath os yn bosibl, ac os ymddengys fod sylwedd gwirioneddol i'r cynigion amgen a gyflwynir.

6.20 Os bydd Arolygydd yn wynebu cyflwyniad hwyr yn ymwneud â dewis amgen i'r cynnig dylai ystyried yn gyntaf p'un a oes sylwedd iddo a dim ond os yw'n gwbl amlwg nad oes sylwedd iddo y dylai ei wrthod ar unwaith. Dylai'r Arolygydd ofyn p'un a hysbyswyd y bobl y byddai'n effeithio arnynt ac, os na, dylai ofyn i'r hyrwyddwyr ac unrhyw bartïon eraill yn yr ymchwiliad am eu barn ar y mater. Yna, bydd yn rhaid i'r Arolygydd farnu beth yw'r peth gorau i'w wneud, o gofio'r ystyriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 6.18 uchod.

6.21 Os bydd yr Arolygydd yn penderfynu y dylid gwrando ar yr achos dros y cynnig amgen er gwaethaf y ffaith ei fod yn hwyr, efallai, yn ystod ymchwiliad hir, y bydd yn bosibl gohirio'r gwrandawiad o'r achos ar gyfer y dewis amgen hwnnw hyd nes yr hysbysir y bobl y byddai'n effeithio arnynt ac y rhoddir amser iddynt baratoi unrhyw wrthwrthwynebiadau. Fel arall, efallai y bydd yr Arolygydd o'r farn bod angen gohirio'r ymchwiliad i alluogi'r rhai yr effeithir arnynt i gael rhybudd ac amser i baratoi.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English