Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Cwmpas yr Ymchwiliad (parhad)

Gorchmynion Prynu Gorfodol ar gyfer Cynlluniau Ffyrdd

6.22 Mae angen gofal arbennig wrth osod cyfyngiadau ar gyfer tystiolaeth mewn ymchwiliadau i Orchmynion Prynu Gorfodol fel a ganlyn:

Gorchymyn Llinell a Wnaed Eisoes

6.23 Os bydd gorchymyn llinell eisoes wedi'i wneud a bydd gwrthwynebwr statudol i orchymyn prynu gorfodol canlyniadol yn awyddus i godi neu ailadrodd gwrthwynebiad i'r llinell a bennwyd ar gyfer y ffordd, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 258 ac Atodlen 20 Deddf Priffyrdd 1980 y pwer i ddiystyru'r gwrthwynebiad hwnnw. Nid yw'r Ddeddf yn ymestyn y pwer hwn yn benodol i'r Arolygydd sy'n cynnal yr Ymchwiliad Gorchymyn Prynu Gorfodol, ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Arolygydd wrando felly ar ddadleuon a thystiolaeth sy'n ymwneud â'r gorchymyn a wnaed eisoes. Yn hytrach, dylai'r Arolygydd sicrhau bod yr hyn y mae'n ei glywed yn berthnasol i'r gorchymyn ger ei fron, ac nad ehangir cwmpas yr ymchwiliad i gynnal ailwrandawiad o achosion yr ymchwiliad gorchymyn llinell blaenorol. Os bydd unrhyw un yn benderfynol o wneud cyflwyniadau neu gyflwyno tystiolaeth o'r fath, dylid eu gwahodd i wneud hynny ar ffurf cyflwyniad ysgrifenedig, y gall yr Arolygydd ei atodi i'r adroddiad. Os bydd yr Arolygydd mewn amgylchiadau eithriadol yn penderfynu arfer disgresiwn a gwrando ar y dystiolaeth, dylai esbonio'r rhesymau fel nad oes unrhyw un o dan unrhyw gamddealltwriaeth o ran safbwynt yr Arolygydd ar y mater.

Caniatâd Cynllunio a Roddwyd

6.24 Os bydd awdurdod lleol eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu ffordd, efallai y bydd yr awdurdod yn dadlau nad yw'r angen am ffordd yn fater i'w ystyried ac na ddylid dadlau yn ei gylch yn yr ymchwiliad gorchymyn prynu gorfodol. Fodd bynnag, ni ellir cynnal dadl o'r fath oherwydd mai dim ond y pwer i gaffael tir yn orfodol sy'n ofynnol at y dibenion perthnasol y mae Adrannau 239 a 240 Deddf Priffyrdd 1980 yn ei roi i awdurdodau priffyrdd. Nid yw rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dulliau adeiladu o'r fath yn golygu dim mwy na bod yr awdurdod cynllunio lleol yn ystyried y ffordd yn ddefnydd derbyniol o'r tir. Efallai na fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi ystyried yr angen am y ffordd, neu yn wir deilyngdod llwybrau amgen. Fodd bynnag, hyd yn oed os byddant wedi ystyried hynny, ni fyddai hyn yn diystyru gwrthwynebiadau ar y seiliau hyn. Lle y bydd y ffordd arfaethedig wedi'i chynnwys mewn Cynllun Lleol neu Gynllun Datblygu Unedol ac wedi bod yn destun ymchwiliad cynllunio, mae'r sefyllfa'n wahanol ac fe'i hesbonnir isod.

Rhoi Caniatâd Cynllunio ar ôl Cymeradwyo'r Cynllun Lleol

6.25 Efallai y byddai ystyriaethau gwahanol yn berthnasol i gynnig awdurdod lleol y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer ar ôl i union lwybr y ffordd arfaethedig gael ei gynnwys mewn Cynllun Lleol neu Gynllun Datblygu Unedol a fabwysiadwyd ac na heriwyd y cynllun yn llwyddiannus yn y Llysoedd. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar ffyrdd yng nghyd-destun y cynllun datblygu yn Lloegr yng Nghanllawiau Polisi Cynllunio Adran yr Amgylchedd 12, Rhifyn Rhagfyr 1999, Pennod 5, ac yng Nghymru yng Nghynlluniau Datblygu Unedol Cymru (2001). Y nod yw sicrhau y creffir ar gynigion ffyrdd lleol ac y'u hymgorfforir yn y system cynllunio defnydd tir drwy weithdrefnau cynlluniau datblygu. Mae'r rhain yn ei gwneud yn bosibl i archwilio'r angen am y ffordd ac os yw'n briodol cytuno ar ei haliniad manwl. Felly, mae'n bosibl y bydd Arolygydd sy'n cynnal ymchwiliad i Orchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer cynnig priffordd awdurdod lleol yn awyddus i ystyried:

  • A yw union lwybr y ffordd wedi'i gynnwys mewn Cynllun Lleol a fabwysiadwyd neu Gynllun Datblygu Unedol.
  • A gafodd y cynnig gyhoeddusrwydd eang yn ystod cyfnod ymgynghori ar y cynllun a'r cam adneuo pan y gellid fod wedi gwneud gwrthwynebiadau i'r cynllun.
  • A ystyriwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig mewn ymchwiliad i'r cynllun a ph'un a fabwysiadwyd yr union lwybr dim ond ar ôl ystyried adroddiad yr Arolygydd yn llawn.
  • A roddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y ffordd yn union ar y llinell yn y cynllun ar ôl mabwysiadu'r cynllun

6.26 Os ymgymerwyd â phob un o'r camau hyn a'u cwblhau, dylai gofynion cyfiawnder naturiol ynghylch y materion sy'n ymwneud â'r angen am y ffordd a llwybr y ffordd honno fod wedi cael eu bodloni ac ni ddylid ailagor y materion yn yr ymchwiliad i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol (neu'r Gorchymyn Ffyrdd Ochr). Ar y llaw arall, os cwblhawyd y camau uchod ond bod y cynllun ond yn diffinio'r tir sydd am gael ei ddiogelu ar gyfer y ffordd yn hytrach nag union lwybr, byddai lle i wrthwynebu'r llinell a lle i hyrwyddo dewisiadau amgen, ond ni ddylai'r angen am y ffordd fod yn fater i'w ystyried.

Gwrthwynebiadau ar Sail Caledi

6.27 Os bydd unrhyw un yn dymuno gwrthwynebu Gorchymyn Prynu Gorfodol ar sail caledi a/neu iawndal annigonol (yn hytrach na defnydd o dir), dylid cofio er bod caledi na ellir ei ddiwallu gan iawndal yn ystyriaeth berthnasol bob amser, mae Deddf Caffael Tir 1981 (Atodlen 1 Paragraff 4(5)) yn nodi y gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiystyru gwrthwynebiadau sy'n ymwneud â materion y gellir ymdrin â hwy gan y tribiwnlys (Tribiwnlys Tir) sy'n asesu'r iawndal. Gan nad gwaith yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw asesu iawndal, ni ddylai'r Arolygydd wrando ar dystiolaeth am gyfrifo iawndal na cheisio datgelu lefelau disgwyliedig o iawndal. Er hynny, disgwylir fel rheol, i awdurdodau allu rhoi costau amcangyfrifedig cynllun yn gyffredinol.

Gwaith Hwyluso

6.28 Gall unrhyw un yr effeithir arno gyflwyno i'r Arolygydd natur a maint y gwaith hwyluso y byddai'r person yr effeithir arno yn disgwyl iddo gael ei gyflawni pe gweithredwyd cynnig i adeiladu ffordd. Dylai gael caniatâd i wneud hynny oherwydd gallai'r hyn a ddywedir fod yn berthnasol i p'un a ddylai'r hyn a gynigir fynd yn ei flaen, gyda neu heb addasiadau. Fodd bynnag, mae maint y gwaith hwyluso yn un o'r ffactorau a ystyrir wrth gyfrifo'r iawndal sy'n daladwy pan gymeradwyir cynnig, ond materion i'r Asiantaeth Priffyrdd a'r tirfeddiannwr dan sylw yw union fanylion y gwaith hwyluso ac ni ddylid eu cynnwys yng nghasgliadau nac argymhellion yr Arolygydd felly. Dylai'r Arolygydd sicrhau ei fod yn osgoi casgliadau ac argymhellion yn ei adroddiad yr ymddengys eu bod yn trawsfeddiannu swyddogaethau'r Tribiwnlys Tir.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English