Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Nodiadau canllaw i Arolygwyr sy'n Cynnal Ymchwiliadau i Orchmynion a Chynlluniau Ffyrdd Arbennig

Tudalen dwethaf Tudalen cynnwys Tudalen nesaf

Cwmpas yr Ymchwiliad (parhad)

Llwybr Amgen

6.29 Os bydd y sawl sy'n gwrthwynebu Gorchymyn Prynu Gorfodol yn dymuno cynnig llwybr amgen i'r hyn sy'n destun y Gorchymyn Prynu Gorfodol, ac na chytunwyd eisoes ar y llwybr dan sylw drwy wneud (neu gadarnhau) gorchymyn blaenorol neu roi caniatâd cynllunio yn dilyn cynnwys yr union lwybr mewn Cynllun Lleol a fabwysiadwyd neu Gynllun Datblygu Unedol (is-baragraff 6.25 uchod), mae darpariaethau Adran 258(2) Deddf Priffyrdd 1980 yn berthnasol (gweler paragraffau 6.17 -6.21 uchod).

Cyfyngu ar Addasiadau

6.30 Yn olaf, dylid nodi er y gellir addasu Gorchymyn Prynu Gorfodol drwy ddileu rhan o'r tir y mae'n ei gwmpasu, ni ellir ei addasu i awdurdodi'r gwaith o brynu rhagor o dir oni fydd pob person sydd â diddordeb yn rhoi caniatâd (gweler Atodlen 1, Paragraff 5 Deddf Caffael Tir 1981 o ran gorchmynion yr Ysgrifennydd Gwladol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Adran 14 o ran gorchmynion awdurdod lleol). Os cytunir yn yr ymchwiliad y dylid ychwanegu tir at y Gorchymyn Prynu Gorfodol, bydd yr Arolygydd yn derbyn caniatâd ysgrifenedig pob person â diddordeb a dylid eu hamgáu gydag adroddiad yr Arolygydd.

Gorchmynion Cau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Adran 247

6.31 Mae Adran 247 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (a247) yn rhoi pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru / y Fwrdeistref bertnasol yn Llundain gau neu ddargyfeirio priffordd lle y byddant yn fodlon bod angen gwneud hyn i ddarparu ar gyfer gwaith datblygu. Arferir y pwer yn seiliedig ar ddisgresiwn. Nid yw cau neu ddargyfeirio yn dilyn yn awtomatig o ganlyniad i gynnig datblygu a gymeradwywyd.

6.32 Wrth ffurfio barn ynglyn â ph'un a ddylid argymell cadarnhau gorchymyn a247 ai peidio, mae'n rhaid i'r cynnig datblygu fod wedi cael caniatâd cynllunio yn gyntaf o dan Ran III Deddf Cynllunio 1990. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r datblygiadau arfaethedig achosi rhwystr yn y briffordd. Mae'r rhain yn ystyriaethau ffeithiol, syml.

6.33 Mae'r angen i bwyso a mesur yr anfanteision a'r manteision yn sgîl y gorchymyn arfaethedig neu'r golled sy'n debygol o godi, o ganlyniad i gau neu ddargyfeirio, naill ai i aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, neu i bobl y mae eu heiddo yn cyd-ffinio â'r briffordd bresennol, neu sy'n agos ati, yn faterion llai uniongyrchol. Efallai y bydd yr asesiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r materion sy'n ymwneud â'r briffordd a/neu draffig a ystyriwyd yn ystod y broses o gael caniatâd cynllunio gan yr awdurdod fod yn ddarostyngedig i archwiliad pellach fel rhan o'r gwaith o ystyried y gorchymyn, ynghyd â'r materion perthnasol a godwyd yn y gwrthwynebiad i'r gorchymyn o dan ddarpariaethau a252 ond nas codwyd yn ystod y broses o gael caniatâd cynllunio.

6.34 Efallai y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr ystyriaethau a ystyriwyd yn ystod y broses o gael caniatâd cynllunio ac wrth benderfynu p'un a ddylid cadarnhau gorchymyn a247 ai peidio. Er na ellir ailystyried teilyngdod cynllun a gymeradwywyd, ni all Arolygydd achub yn awtomatig ar gyfle i wrthwynebwyr eraill godi pwyntiau am y briffordd, goblygiadau o ran traffig a goblygiadau economaidd, er efallai i'r rhain gael eu hystyried yn gyffredinol yn ystod y broses o gael caniatâd cynllunio. Mae'r ymagwedd hon yn codi o ganlyniad i ddyfarniad Vasiliou.

6.35 Yn yr un modd ag yr arferir pwer yr Ysgrifennydd Gwladol/ Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gadarnhau gorchymyn a247 yn seiliedig ar ddisgresiwn o ran amgylchiadau penodol, mae gan yr Arolygydd hefyd ddisgresiwn i ganiatau'r gwaith o gyflwyno tystiolaeth sydd wedi'i chyfeirio at yr amgylchiadau penodol, er bod hyn o bosibl wedi'i ystyried gan yr awdurdod yn ystod y broses o gael caniatâd cynllunio. Efallai na fydd paratoi trylwyr gan yr Arolygydd, yn seiliedig ar y papurau sydd ar gael cyn yr ymchwiliad, yn datgelu'n llawn raddau pryderon penodol y sawl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan fwriad i gau ffordd. Dim ond yn yr ymchwiliad y bydd graddau'r pryderon hyn yn dod yn glir.

6.36 Felly, mewn amgylchiadau priodol, mae'n well clywed unwaith yn rhagor rywfaint o dystiolaeth yr ystyriwyd yn flaenorol gan yr awdurdod. Yn yr ymchwiliad, dylai'r Arolygydd esbonio bod y dystiolaeth o bosibl wedi'i hystyried eisoes pan benderfynodd yr awdurdod roi caniatâd cynllunio. Efallai na roddir llawer o bwys ar y dystiolaeth hon wrth lunio barn gytbwys am anfanteision gorchymyn a247 o gymharu â'r buddiannau tebygol i'r gymuned yn sgîl galluogi'r datblygiadau a gymeradwywyd i gael eu darparu.

6.37 Nid oes rheolau gweithdrefn ar gyfer ymchwiliadau o dan a247, ond dylai Arolygydd ddefnyddio'r pwerau a drosglwyddwyd iddo a bod yn ystyriol o'r math hwn o achos sydd yn y pen draw yn fater i'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymu / y Fwrdeistref berthnasol yn Llundain benderfynu ar beth allai fod yn berthnasol neu'n amherthnasol wrth ystyried gorchymyn a247. Os bydd yr awdurdod cynllunio yn gwrthwynebu derbyn tystiolaeth benodol a ystyriwyd eisoes ar y cam gwneud cais cynllunio, byddai ymateb dilys yn nodi mai'r Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd i benderfynu pa dystiolaeth sy'n berthnasol a faint o bwysau y dylid ei roi arni.

6.38 Mewn achos a247, dylai'r Arolygydd gynnwys yn ei ddatganiad agoriadol y meini prawf ar gyfer gorchymyn. Dylai'r meini prawf hefyd gael ei gynnwys yn y casgliadau i'r adroddiad. Felly, dylai'r datganiad agoriadol gynnwys sylwadau i'r perwyl y bydd angen i'r Arolygydd fod yn fodlon o ran:

P'un a oes angen cau neu ddargyfeirio'r briffordd dan sylw i alluogi gwaith datblygu i gael ei wneud yn unol â'r caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ond nas gweithredwyd; a ph'un a yw'r anfanteision neu'r golled sy'n debygol o godi, o ganlyniad i gau neu ddargyfeirio, naill ai i aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, neu i bobl y mae eu heiddo yn cyd-ffinio â'r briffordd bresennol, neu sy'n agos ati yn bwysicach na'r manteision i'w cyflwyno gan y gorchymyn arfaethedig.

Gorchmynion Awdurdodau Lleol

6.39 Mae ystyriaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n berthnasol i orchmynion a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol / Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn berthnasol i orchmynion awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn achos gorchmynion awdurdodau lleol, mae'r pwyslais yn debygol o fod ar ffactorau lleol yn hytrach nag ar weithredu polisïau cenedlaethol. Yn ymarferol, mae awdurdodau priffyrdd yn tueddu i ddilyn cyngor a safonau llywodraeth ganolog, er nad ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny. Yn achlysurol, efallai y bydd Arolygwyr yn sylwi y bydd awdurdod priffyrdd lleol wedi gwyro oddi wrth y safonau cenedlaethol neu nad yw wedi mabwysiadu'r diweddaraf o'r rhain. Mewn achosion o'r fath, dyletswydd yr awdurdod priffyrdd lleol fydd cyfiawnhau ei safonau a'r canlyniadau ar gyfer caffael tir gan ystyried y meini prawf ym mharagraff 2.3 uchod.

 

Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English