HygyrcheddAchrediad "Gweld yn iawn" Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion - 2005Mae'n bleser gan yr Arolygaeth Gynllunio gyhoeddi ein bod wedi ennill achrediad "Gweld yn iawn" y RNIB am ein gwefan ( www.planning-inspectorate.gov.uk ) ac am ein his-wefannau. Y wefan hon yw 17eg gwefan y Llywodraeth i ennill y wobr* hon ac mae'n golygu ein bod wedi pasio'r rhestr wirio gaeth 28 pwynt a osodir gan yr RNIB i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bobl â nam ar eu golwg. *Ffynhonnell gwefan y RNIB Allweddi MynediadMae Gwefan yr Arolygaeth Gynllunio yn defnyddio'r ffurfwedd allweddi mynediad ganlynol ar hyn o bryd:
Cysylltiadau Allanol
Mae dwy filiwn o bobl â phroblemau golwg yn y DU. Mae gwefan ac is-wefannau'r arolygaeth gynllunio wedi'u hysgrifennu yn unol â chyfarwyddiadau "Gweld yn iawn" yr RNIB ac am hyn y mae'r arolygaeth gynllunio wedi'i hachredu. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr RNIB a'u safonau ar eu gwefan: http://www.rnib.org Dallineb lliwMae'r wefan hefyd wedi'i phrofi ar gyfer y rheiny sy'n dioddef o ddallineb lliw. Mae'r lluniau canlynol yn dangos yr hafan fel y mae'n ymddangos i berson â chyflyrau dallineb lliw gwahanol. Y brif nod yw sicrhau nad yw llywio'r wefan yn cael ei gymylu oherwydd diffyg cyferbyniad neu am fod dau liw sy'n ymddangos yr un lliw ochr yn ochr â'i gilydd. Dewteranopia, diffyg lliw coch/gwyrdd
Cochddallineb, ffurf arall o ddiffyg lliw coch/gwyrdd
Tritanopia, diffyg lliw glas/melyn
Os ydych yn cael problemau wrth edrych ar unrhyw dudalen ar y wefan hon cysylltwch â'r gwe-dîm .
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |