
Ar 21 Gorffennaf galwodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol i mewn geisiadau a wnaed gan BAA Limited a Stansted Airport Limited ar gyfer ail lain lanio arfaethedig ym Maes Awyr Stansted. Ar yr un pryd cyhoeddodd yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Drafnidiaeth a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ymchwiliadau i geisiadau a gorchmynion eraill yn ymwneud â'r ail lain lanio arfaethedig. Yr Arolygiaeth Gynllunio a arweiniodd y broses o gydlynu adrannau amrywiol y llywodraeth ar gyfer cyhoeddi'r ymchwiliad i'r cynnig pwysig hwn ar yr un pryd. Bydd yr ymchwiliad yn cynnwys y defnydd cyntaf erioed o Reolau Ymchwiliadau Seilwaith Pwysig 2005, ac mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi sefydlu gwefan i roi cymorth i'r rhai sydd â diddordeb ym mhroses yr ymchwiliad ac a aeth yn fyw ar ddiwrnod y galw i mewn:
http://www.planning-inspectorate.gov.uk/stanstedg2inquiry/index.htm
Ar 21 Gorffennaf gwnaed cynnig i'r prif bartïon agor yr Ymchwiliad ar 13 Ionawr 2009 ond gwrthododd yr ACLl y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, cytunwyd ar ddyddiad agor o 15 Ebrill 2009 bellach.
Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ar 22 Gorffennaf, cymeradwyodd Deddf Crossrail 2008 adeiladu cyswllt rheilffordd ar draws Llundain (CLRL) o Maidenhead a Heathrow yn y gorllewin i Essex a Chaint yn y dwyrain. Ceir manylion y cynllun ar safle Crossrail: http://www.crossrail.co.uk/
Dros y misoedd diwethaf mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cydweithio'n ddyfal gyda'r Adran Drafnidiaeth ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) er mwyn paratoi Nodiadau Canllaw ar gyfer y prosesau apelio neu anghydfod amrywiol sy'n ymwneud â chymeradwyo manylion y cynllun; ar gyfer materion treftadaeth (h.y. datblygiadau sy'n effeithio ar adeiladau rhestredig); ar gyfer sŵn adeiladu; ac ar gyfer cau priffyrdd. Roedd yr amserlenni byr ar gyfer gwneud y gwaith hwn, a phennu fersiynau drafft o Gytundebau Lefel Gwasanaeth i'r Arolygiaeth wneud y gwaith hwn ar sail ailgodi ffioedd i’r Adran Drafnidiaeth a Defra, yn heriol iawn, ond mae'r darpariaethau y cytunwyd arnynt yn efelychu'r rhai a wnaed ar gyfer Cyswllt Rheilffordd Cyflymder Uchel Twnnel y Sianel (CTRL). Mae'r Arolygiaeth yn hyderus y bydd yn gallu cyflawni'r amserlenni byr sydd eu hangen i gyflawni penderfyniadau ac adroddiadau ar unrhyw achosion CLRL fel y gwnaeth ar CTRL.