Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai

Nododd ein cylchlythyr blaenorol (Rhifyn 9) gefndir ac arbedion y gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai newydd. Bydd y dull symlach hwn yn golygu y caiff apeliadau gan ddeiliaid tai eu penderfynu cyn pen 12 wythnos neu lai o dan ein Cynllun Peilot - mae hynny o leiaf bedair wythnos yn gyflymach na'r broses bresennol.  Gyda disgwyl i newidiadau i ddeddfwriaeth ddod i rym ym mis Ebrill 2009, bydd y targed hwn yn newid i wyth wythnos.

Mae diddordeb yn ein Cynllun Peilot, ar gyfer y Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai, a fu'n rhedeg yn llwyddiannus ers mis Ionawr 2008, yn parhau i dyfu gyda rhagor o Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) yn ymuno bob mis. Cafwyd ymateb ysgubol gan ACLlau sy'n ceisio rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a manteisio ar yr arbedion amser ac adnoddau sydd ar gael fel rhan o'n cynllun yn dilyn llythyr Yr Arolygiaeth Gynllunio at Benaethiaid Gwasanaethau Cynllunio ledled y wlad a thrwy ein stondin llwyddiannus yng Nghonfensiwn Cynllunio diweddar yr RTPI. 

Mae ein cydweithwyr yn y Porth Cynllunio, drwy eu Gweithdai Porth Cynllunio rhanbarthol, hefyd wedi helpu i atgyfnerthu ein neges. Disgwylir i'r Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai ddechrau ym mis Ebrill 2009.  Felly nawr yw'r amser delfrydol i ymuno â'n cynllun Peilot.  Bydd hyn yn eich galluogi i gyflawni enillion ac arbedion ar unwaith a hefyd yn eich galluogi i sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer mis Ebrill. Yng ngoleuni'r newyddion bod y Llywodraeth wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w chynigion am Gyrff Adolygu Aelodau Lleol, nid oes rheswm i ymatal bellach!

Mae'r holl apeliadau y penderfynwyd arnynt hyd yma wedi'u penderfynu o fewn ein targed o 12 wythnos ar gyfer y Cynllun Peilot, gyda dros 20% yn cael eu penderfynu o fewn yr wyth wythnos, sef y targed ar gyfer y gwasanaeth llawn. Mae nifer yr apeliadau'n parhau i dyfu, gyda mis Mehefin yn dangos yr uchafswm o ran apeliadau newydd.  Wrth i ragor o ACLlau ymuno â'r Cynllun Peilot mae'n debyg y bydd y duedd hon yn sicr o barhau.

Bu'r adborth gan ACLlau yn gadarnhaol gyda 90% o'r ymatebion yn nodi bod y newidiadau a roddwyd ar waith yn ddefnyddiol neu'n ddefnyddiol iawn i'r ACLl. Bu'r adborth gan apelyddion yn gadarnhaol hefyd, hyd yn oed mewn achosion lle cafodd yr apêl ei gwrthod, gyda buddiannau penderfyniad apêl llawer cyflymach yn rheswm dros hyn.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch ymuno heddiw, cysylltwch â Gavin Ewing ar 0117 372 8397 neu anfonwch e-bost at gavin.ewing@pins.gsi.gov.uk

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr