Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 10
Neges gan y Prif Weithredwr
Croeso i rifyn diweddaraf Cylchlythyr yr Arolygiaeth Gynllunio. Cawsom amser prysur iawn ers cyhoeddi'r rhifyn diwethaf yn enwedig o ran hynt y Mesur Cynllunio a chyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon ar Orffennaf 17eg. Rydym hefyd wedi parhau i ddatblygu cynllun peilot y Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai fel dewis amgen i Fyrddau Adolygu Aelodau Lleol; gwneir cynnydd da ac adroddwn ar hynny yn y rhifyn hwn.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodi Mark Southgate fel ein Cyfarwyddwr Gwaith Achos newydd. Ar hyn o bryd Mark yw Pennaeth Cynllunio ac Asesu Amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd yn dechrau yn yr hydref, gan gymryd lle Peter Robottom sydd wedi gwneud gwaith gwych a bydd yn ymddeol o'i swydd ar ddiwedd mis Awst.
Mae gennym Gyfarwyddwr Anweithredol newydd hefyd, sef yr Athro Colin Jones, y bydd llawer ohonoch o bosibl yn ei adnabod o'i ddyddiad yn Awdurdod Datblygu Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd Colin yn cymryd lle Liz Peace sydd wedi cwblhau ei dau dymor yn y swydd.
Fel arfer, mae croeso i chi roi eich sylwadau ar yr eitemau yn y rhifyn hwn, neu gyflwyno eich awgrymiadau ar gyfer erthyglau yn y dyfodol, drwy anfon e-bost at KatrineSporle.News@pins.gsi.gov.uk
Katrine Sporle
Medi 2008
- Neges gan y Prif Weithredwr
- Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai
- Mae'r Broses o Gofrestru Apeliadau Cynllunio Nôl Ar y Trywydd Iawn unwaith eto
- Gwobrau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynllun Gweithredu Ardal Canol Tref Biddulph
- Crossrail & Stansted
- Cyflwyno cynigion diwygiedig mewn apêl
- Datganiad Polisi Cynllunio 12 a Phrofi Caderndid
- Newyddion I Randdeiliaid
Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai 
Mae Sean Canavan, Pennaeth Ansawdd a Phrosiectau Arbennig, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yng nghynllun peilot y Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai gan gynghori mai nawr yw'r amser i ymuno â'r cynllun.
Darllenwch yr erthygl Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai >>
Mae'r Broses o Gofrestru Apeliadau Cynllunio Nôl Ar y Trywydd Iawn unwaith eto
Mae'r ôl-groniad o apeliadau a oedd yn aros i'w cofrestru a amlinellwyd yn Rhifyn 9 o'r Cylchlythyr wedi'i glirio bellach. Mae Si Bliss, Rheolwr Adran ar Gofrestru'r Gwasanaeth Cynllunio Gwaith Achos yn diolch y rhai a gynorthwyodd ac yn cyflwyno cais arall ynghylch cywirdeb cynlluniau a darluniadau a gafwyd.
Darllenwch yr Erthygl Broses o Gofrestru Apeliadau Cynllunio Nôl Ar y Trywydd Iawn unwaith eto >>
Gwobrau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynllun Gweithredu Ardal Canol Tref Biddulph
Dywed Keith Holland, Cyfarwyddwr Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Gynlluniau Datblygu
"Cynllun Gweithredu Ardal Canol Tref Biddulph oedd un o'r Dogfennau Cynllun Datblygu (DPD) cyntaf a archwiliwyd gennym. Roedd Shelagh Bussey wedi ymdrin â'r archwiliad o'r ddogfen cynllun datblygu honno yn effeithlon. Mae llwyddiant y DPD hwn yn dangos y ffordd y gellir defnyddio System y Fframwaith Datblygu Lleol mewn ffordd hyblyg ac ymatebol i hyrwyddo cynllunio cadarnhol."
Crossrail & Stansted
Ym mis Gorffennaf 2008 roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol wedi galw ceisiadau i mewn am ail lain lanio arfaethedig ym Maes Awyr Stansted ac ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, roedd Deddf Crossrail 2008 wedi cymeradwyo adeiladu rheilffordd ar draws Llundain. Mae Bob Wiggins, Pennaeth Cangen yr Amgylchedd a Gwaith Achos Arbenigol, yn amlinellu rhan yr Arolygiaeth Gynllunio yn y ddau brif brosiect hwn.
Cyflwyno cynigion diwygiedig mewn apêl 
Mae Peter Burley, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd a gwaith arbenigol, yn esbonio dehongliad o brofion Wheatcroft y mae Arolygwyr yn eu mabwysiadu tuag at gynigion diwygiedig a gyflwynir yng ngham yr apêl.
Darllen yr erthygl ar Cyflwyno cynigion diwygiedig mewn apêl >>
Datganiad Polisi Cynllunio 12 a Phrofi Caderndid
Ym mis Mehefin 2008 cyhoeddwyd diwygiad i Ddatganiad Polisi Cynllunio 12 “Creating strong safe and prosperous communities through Local Spatial Planning”. Mae Keith Holland, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Gynlluniau Datblygu, yn trafod manteision y Datganiad Polisi Cynllunio newydd ac yn amlygu dogfen gyfarwyddyd yr Arolygiaeth Gynllunio.
Darllen yr erthygl ar y Datganiad Polisi Cynllunio 12 a Phrofi Caderndid >>
Newyddion I Randdeiliaid
Randdeiliaid
Hyd yma eleni cynhaliwyd cyfarfodydd Rhanddeiliaid gyda'r grwpiau canlynol:
Cyrff Rhanbarthol
Panel Cynghori ar Safonau/Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd
Y Gymuned Ddatblygu
Grwpiau â Buddiant Cyffredinol
Grwpiau Hawliau Tramwy
Yn y cyfarfodydd rhoddodd yr Arolygiaeth y wybodaeth ddiweddaraf am:
Perfformiad
Fframweithiau Datblygu Lleol
Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Chyrff Proffesiynol a Chyrff Cyhoeddus ym mis Medi. Ar ôl hynny byddwn yn paratoi nodyn adborth i gwmpasu'r holl gyfarfodydd a gynhaliwyd eleni.
Sheila Rice