Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Datganiad Polisi Cynllunio 12 a Phrofi Cadernid Keith Holland

Ym mis Mehefin 2008 cyhoeddwyd Datganiad Polisi Cynllunio 12 “Creu cymunedau cryf, diogel a ffyniannus drwy Gynllunio Gofodol Lleol” ac mae'r Datganiad Polisi Cynllunio hwn yn disodli fersiwn 2004.  Daeth Rheoliadau Diwygio sy'n ategu'r Datganiad Polisi Cynllunio i rym ar 27 Mehefin 2008 (OS 1371/2008).

Nid yw'r cysyniad o Fframweithiau Datblygu Lleol wedi'i newid yn y Datganiad Polisi Cynllunio diwygiedig ond ceir newidiadau sylweddol mewn dwy ffordd bwysig.  Yn gyntaf, mae awdurdodau sy'n gwneud cynlluniau bellach yn cael mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd maent yn mynd ati i baratoi eu cynlluniau a chyflawni ymgysylltiad â'r cyhoedd.  Mae'r hyblygrwydd hwn yn eu galluogi i ddatblygu rhaglen wedi'i theilwra o baratoi cynlluniau ac ymgysylltu sy'n briodol ar gyfer y math o ddogfen cynllun datblygu sy'n cael ei pharatoi. Yn ail, mae'r ffordd y caiff y cysyniad o gynllun cadarn ei esbonio wedi'i symleiddio i'w gwneud yn haws ei ddeall.  Yn fersiwn 2004 o Ddatganiad Polisi Cynllunio 12 nodwyd naw prawf cadernid.  Roedd hyn yn ddryslyd i rai ac nid oedd yn amlwg yn hyrwyddo dull integredig o wneud cynlluniau sydd wrth wraidd y system cynllunio gofodol.

Wrth ystyried dogfennau cynlluniau datblygu mae'n rhaid ystyried dau faes penodol - cydymffurfiaeth gyfreithiol a chadernid.  Mae cydymffurfiaeth gyfreithiol yn ymwneud â materion megis a yw'r gweithdrefnau gofynnol wedi'u dilyn ac a yw'r ddogfen ar y cyfan yn cydymffurfio â'r Strategaeth Ofodol Ranbarthol a'r Strategaeth Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer yr ardal.   Caiff cadernid bellach ei fynegi o ran a oes cyfiawnhad dros y cynllun, a yw'n effeithiol ac a yw'n unol â pholisi cenedlaethol.  Er mwyn ei gyfiawnhau mae'n rhaid i gynllun fod yn seiliedig ar sail dystiolaeth ddigonol a chredadwy a'r strategaeth fwyaf priodol pan gaiff ei ystyried yn erbyn dewisiadau amgen rhesymol.  Cynlluniau effeithiol yw'r rhai y mae modd eu cyflawni, sy'n hyblyg ac y gellir eu monitro.

O safbwynt yr Arolygiaeth nid yw'r ffordd ddiwygiedig o fynegi'r cysyniad o gadernid yn newid y safon y bydd yn rhaid i ddogfennau cynlluniau datblygu ei chyrraedd er mwyn bod yn gadarn.  Mae'r Arolygiaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd, ‘Examining Development Plan Documents: Soundness Guidance’ sydd ar gael drwy Lawlyfr Gwneud Cynlluniau'r Gwasanaeth Cynghori Cynllunio neu gellir ei weld ar wefan yr Arolygiaeth. I bob pwrpas, mae'r canllawiau'n aildrefnu ac yn mireinio'r cwestiynau yn Adran 1 o'r cyhoeddiad ‘Archwilio Cynlluniau Datblygu – Canllaw i'r Broses o Asesu Candernid Dogfennau Cynlluniau Datblygu’ o dan y profion cadernid wedi'u hailbecynnu. Caiff y gofynion cydymffurfiaeth gyfreithiol eu nodi ar wahân bellach.

Mae'r Arolygiaeth hefyd yn gweithio ar ganllaw gweithdrefnol newydd fydd yn nodi agweddau ymarferol ar yr archwiliad yn cynnwys amserlen well ar gyfer y broses archwilio. Ein nod yw cwblhau fersiwn terfynol y canllaw gweithdrefnau ym mis Awst yn barod ar gyfer y trefniadau cyflwyno newydd fydd yn gymwys o 1 Medi 2008.
Mae'r Arolygiaeth yn esbonio ei safbwynt o'r Datganiad Polisi Cynllunio 12 diwygiedig mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y wlad a drefnwyd gan Swyddfeydd y Llywodraeth yn ogystal â chyfrannu at y digwyddiadau Dysgu a Lledaenu'r Fframwaith Datblygu Lleol a drefnwyd gan Fentrau Cymdeithas y Swyddogion Cynllunio.

Yn y digwyddiadau hyn bu staff yr Arolygiaeth yn pwysleisio nifer o bwyntiau yn cynnwys:

Keith Holland
Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Cynlluniau Datblygu 

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr