Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Mae'r Broses o Gofrestru Apeliadau Cynllunio Ar y Trywydd Iawn Unwaith Eto Simon Bliss

Yn Rhifyn 9 o'r Cylchlythyr dywedwyd wrth y darllenwyr am yr ôl-groniad o apeliadau newydd a fu'n cynyddu'n raddol ers canol 2007.  Dywedais bryd hynny fy mod, gyda'r mesurau yr oeddem yn eu cymryd, yn hyderus y byddai'r ôl-groniad yn cael ei ddileu dros y misoedd nesaf. 

Rwyf, felly, yn falch iawn i allu dweud, er gwaethaf y ffaith nad oedd derbynebau yn y tri mis hyd at fis Mehefin wedi dangos arwyddion o leihad, ein bod bellach yn cofrestru apeliadau newydd o fewn tridiau i'w derbyn.

Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd fy mhle i ddefnyddwyr y system i fod yn fwy gofalus wrth gyflwyno apeliadau wedi cael effaith, ond hoffwn ddiolch i'r rhai ohonoch sydd wedi cymryd sylw o'r neges.

Heb ddymuno gorffen ar nodyn negyddol, hoffwn nodi ei bod yn amlwg bod apelyddion/asiantau yn gynyddol naill ai'n argraffu neu'n llwytho'r dogfennau i'w cyflwyno i ategu apêl cynllunio i lawr yn uniongyrchol o wefannau awdurdodau cynllunio.  Mae'r arfer hwn yn ddigon dealladwy o ystyried bod gwefannau'r rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod gwybodaeth o'r fath ar gael yn hawdd.  Fodd bynnag, er nad yw hyn yn broblem o ran dogfennau megis y ffurflen gais a'r hysbysiad o benderfyniad ac ati (ar yr amod ein bod yn gallu gweld iddynt gael eu llofnodi a'u dyddio), ni ellir dweud yr un peth am gynlluniau a darluniau lle gall ansawdd y ddelwedd wedi'i sganio amrywio'n sylweddol.  Yn rhy aml ni fydd y cynlluniau/darluniau a gyflwynwyd gyda'r apêl yn ddigon manwl neu ni fyddant wedi'u hargraffu ar raddfa ar bapur o'r maint cywir. 

Mae'n hanfodol bod yr Arolygydd yn cael cynlluniau/darluniau clir a chywir, felly pan fydd dogfennau o'r fath o ansawdd gwael neu heb fod ar raddfa, byddwn yn gofyn am gopïau gwreiddiol.  Bydd hyn yn anochel yn golygu y bydd oedi o ran dechrau'r apêl, ond gallwch helpu i osgoi hyn drwy sicrhau bod y cynlluniau/darluniau a anfonir gyda'r apêl yn glir, yn gywir ac ar raddfa.  Os caiff y cynlluniau/darluniau eu cyflwyno'n electronig nodwch faint y papur y byddant yn cael eu hargraffu arno: gellir nodi hyn yn enw'r ffeil electronig neu ei restru mewn dogfen ar wahân.

Si Bliss
Rheolwr Adran
Cofrestru'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr