Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cyflwyno cynigion diwygiedig mewn apêlPeter Burley

Weithiau bydd apelyddion yn cyflwyno cynlluniau diwygiedig fel rhan o'u hapêl er mwyn mynd i'r afael â phryderon am y cynnig gwreiddiol a godwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a/neu unigolion eraill â diddordeb.  Yn aml caiff y rhain eu cyflwyno gyda'r dogfennau apêl gwreiddiol ond mewn rhai achosion cânt eu cyflwyno yn ddiweddarach o lawer yn y broses apelio, ac weithiau hyd yn oed yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad. 

Lle gofynnir i Arolygwyr ystyried newidiadau i'r cynnig ar y cam apelio, mae'n ofynnol iddynt ystyried y profion a nodwyd gan y Llysoedd yn Wheatcroft v SSE [JPL, 1982, P37].  Yn arbennig, mae'n rhaid iddynt fodloni eu hunain (a) nad yw'r diwygiadau'n effeithio'n sylweddol ar natur y cais a (b) na fyddai unrhyw un y byddid fel arfer yn ymgynghori â hwy o dan unrhyw anfantais oherwydd bod y cynlluniau diwygiedig yn cael eu hystyried.

Pan oedd apeliadau'n cymryd mwy o amser i'w prosesu, roedd yn hawdd deall y demtasiwn i gyflwyno cynigion diwygiedig ar y cam apelio.  Ar brydiau roedd Arolygwyr yn cymhwyso profion Wheatcroft yn eithaf helaeth o dan yr amgylchiadau hyn er mwyn cynorthwyo partïon.  Yn anffodus, mewn rhai achosion arweiniodd hyn at oedi sylweddol o ran penderfynu ar yr apêl i roi cyfle i gyflwyno sylwadau ar y cynigion diwygiedig.  At hynny, arweiniodd at bryderon ynghylch yr hyn sydd wedi'i alw'n 'case creep' lle mae'r hyn a ystyrir mewn apêl yn sylweddol wahanol i'r hyn a ystyriwyd gan yr ACLl ar y cam gwneud cais.

Mae'r amser rhwng cyflwyno apêl a chyhoeddi penderfyniad wedi lleihau'n sylweddol bellach. Yn unol â hynny, nid yw bellach yn cael ei ystyried yn briodol i Arolygwyr gymhwyso profion Wheatcroft yn fwy rhydd.  Dylid gwneud newidiadau sylweddol i gynnig ar y cam cyntaf i'r ACLl drwy gyflwyno cais pellach, a allai osgoi'r angen am apêl. Bydd hyn nid yn unig yn lleihau'r perygl o oedi o ran penderfynu ar apêl ond bydd hefyd yn caniatáu i'r awdurdod cynllunio lleol gynnal ymgynghori penodol ar unrhyw ddiwygiadau arfaethedig.

Yn y dyfodol, er y caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei deilyngdod, bydd Arolygwyr yn mabwysiadu dehongliad mwy cywir o brofion Wheatcroft a fydd yn golygu mai dim ond mân newidiadau nad ydynt yn effeithio'n sylweddol ar ddeiliaid cydffiniol neu bartïon perthnasol eraill (e.e. newid i safle neu faint ffenestr) a gaiff eu hystyried, ar y cyfan. Felly mae ymdrechion i ddarbwyllo Arolygwyr i dderbyn newidiadau sylweddol yn annhebygol o gael ymateb ffafriol. 

Hyd yn oed lle mai dim ond mân newidiadau a gynigir fel arfer dylai'r rhain gael eu cyflwyno gyda dogfennaeth wreiddiol yr apêl .  Mae hyn yn sicrhau bod yr Arolygydd yn cael y cyfle priodol i'w hystyried.  Nid yw aros tan yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad cyn cyflwyno diwygiadau a awgrymir er budd i unrhyw un.  At hynny, gallai arwain at gais llwyddiannus am gostau ac felly dylid osgoi hyn.

Ailystyrir y mater hwn yn y cylchlythyr cynllunio arfaethedig.


1. Ers hynny mae'r penderfyniad hwn wedi'i gadarnhau yn Wessex Regional Health Authority v SSE [1984] a Wadehurst Properties V SSE & Wychavon DC [1990] a Breckland DC V SSE & T. Hill [1992]

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr