
Rydym oll am weld penderfyniadau cyson yn cael eu gwneud. Mae'n bwysig i ddatblygwyr, awdurdodau cynllunio lleol a thrydydd partïon, a phrin yw'r pethau sy'n fwy tebygol o danseilio hyder y cyhoedd yn y broses apelio na'r teimlad bod penderfyniadau yn anghyson.
Rydym yn derbyn nifer fach ond cyson o gwynion yn dweud bod penderfyniad yr Arolygydd hwn neu'r llall yn anghyson â phenderfyniad apêl cynharach tebyg. Ond mae cwyno y dylid penderfynu ar achosion tebyg yn yr un ffordd yn rhagdybio bod yr achos cynharach yn debyg mewn gwirionedd, and nid yw'n wahanol mewn ffordd berthnasol. Ar ôl cynnal ymchwiliadau gellir gwahaniaethu'n hawdd rhwng bron y cyfan o'r cwynion a dderbynnir, yn aml gan fod math neu faint y datblygiadau yn hollol wahanol, neu oherwydd gan fod treigl amser (sef blynyddoedd yn hytrach na misoedd mewn rhai achosion) wedi arwain at newid yn y polisïau perthnasol.
Fodd bynnag, byddai'n ffuantus i honni y bydd cynigion apêl tebyg yn cael eu penderfynu yn yr un ffordd bob amser, yn ddieithriad. Rhaid i Arolygwyr arfer eu barn eu hunain, ac nid allwn ddileu'r elfen ddynol o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae apeliadau yn eu hanfod yn cynnwys dyfarniadau esthetig a chymhwyso pwysigrwydd i dystiolaeth wahanol ac anghyson ynglŷn ag ystod o faterion. Yn anochel mae taro cydbwysedd rhwng y set o ffactorau cymhleth hyn yn golygu y bydd Arolygwyr yn gwneud penderfyniadau gwahanol o bryd i'w gilydd ar achosion sy'n wirioneddol debyg.
Fodd bynnag, rydym yn gwneud beth bynnag sy'n bosibl i leihau'r lle ar gyfer anghysondeb cyhyd y bydd yn bosibl heb lyffetheirio disgresiwn Arolygwyr unigol. O'u hyfforddiant cychwynnol ymlaen, rydym yn pwysleisio pwysigrwydd penderfyniadau apêl blaenorol i Arolygwyr, a'r angen am eglurhad priodol pan yr ymddengys bod y penderfyniad yn wahanol i benderfyniad Arolygydd blaenorol ar achos sy'n ymddangos yn debyg. Yn enwedig, rhaid i Arolygwyr nodi'n glir p'un a ydynt yn (a) gwahaniaethu rhwng yr achosion ar sail y ffeithiau neu (b) nid yn dilyn y penderfyniad blaenorol, oherwydd, er enghraifft, fod ganddynt farn wahanol ar fater o estheteg.
Nid oes amheuaeth y gall penderfyniadau apêl blaenorol fod yn argyhoeddiadol iawn, er hynny nid ydynt yn gyfrwymol. Ond, wrth gwrs, gall Arolygwyr ond ystyried yr hyn y maent hwy a'r partïon yn ymwybodol ohono, a gan hynny rhaid i unrhyw barti mewn apêl sy'n meddwl bod penderfyniad apêl blaenorol yn cefnogi eu hachos sicrhau eu bod yn tynnu sylw'r Arolygydd ato. Hefyd, rhaid iddynt ddarparu'r manylion angenrheidiol, yn cynnwys copïau o benderfyniadau blaenorol.
Mae cyflwyno ein Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio electronig wedi rhoi'r potensial i ni nodi apeliadau eraill o fewn pellter penodol o'r safle apêl bresennol yn haws, a ddylai helpu Arolygwyr i ddeall cyd-destun apêl yn well. Fodd bynnag, mae'r llysoedd wedi datgan mai dyletswydd Arolygwyr yw penderfynu ar achosion, nid cynnal gwaith ymchwil helaeth ar ran y partïon. Felly yn y pendraw, cyfrifoldeb y partïon sy'n ymwneud â'r apêl yw cyflwyno eu hachosion eu hunain a gosod yr holl dystiolaeth y maent yn dibynnu arni gerbron yr Arolygydd, yn cynnwys penderfyniadau apêl blaenorol.
Malcolm Brady
Pennaeth yr Uned Sicrwydd Ansawdd/Uned Dysgu a Datblygu