Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 5

Katrine Sporle

Neges gan y Prif Weithredwr

Dim ond nodyn byr gennyf i ddweud er nad yw lefelau cyflawniad yn erbyn targedau Gweinidogol ar gyfer y flwyddyn yn galonogol iawn, y ffaith yw eu bod yn cuddio ein hadferiad gwych o ran lleihau ôl-groniadau a chyflymu'r broses. Felly, er mwyn achub y blaen ar unrhyw feirniadaeth, fel petai, rwyf am i chi wybod, yn ystod 2006/7:

• Cyhoeddwyd 3,210 o benderfyniadau ar wrandawiadau, o gymharu â 2,000 yn y flwyddyn flaenorol: sef cynnydd o 60%

• Cyhoeddwyd 941 o benderfyniadau ar ymchwiliadau, o gymharu â 787 yn y flwyddyn flaenorol: sef cynnydd o 20%

Gwrandawiadau ac ymchwiliadau oedd ein blaenoriaeth am y flwyddyn; yn ogystal â gweld cynnydd o 3% yn y llwyth gwaith dros y flwyddyn flaenorol, (cafwyd 22,688 o apeliadau) hanerwyd yr amser a gymerwyd i gynnal gwrandawiadau ac ymchwiliadau.

Cydnabu Adolygiad Barker bod angen adnoddau ychwanegol ar yr Arolygiaeth Gynllunio cyn y gallwn gyfnerthu perfformiad yn ystod 2007/8 a gwella arno; yn y cyfamser byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i gynnal ein hansawdd a'n perfformiad.

Katrine Sporle
Prif Weithredwr

Cyswllt

Os ydych yn dymuno tanysgrifio/datgofrestru i'r cylchlythyr, cysylltwch a Tîm Rheoli'r We.


Cysondeb a phenderfyniadau apêl blaenorol

Malcolm Brady

Mae'r Arolygiaeth yn cael nifer gyson o gwynion yn dyfynnu penderfyniadau anghyson gan Arolygwyr. Mae Malcolm Brady, sef Pennaeth Uned Sicrhau Ansawdd yr Arolygiaeth yn egluro pam nad yw nifer o achosion sy'n ymddangos yn debyg yn profi i fod mor debyg wrth eu harchwilio'n agosach.  Mae ef hefyd yn disgrifio rhai o'r camau a gymerir gan yr Arolygiaeth i leihau'r tebygolrwydd o benderfyniadau anghyson.

Darllenwch yr erthygl "Cysondeb a phenderfyniadau apêl blaenorol" >>

Dychwelwch i'r top

Rhanddeiliaid

Ym mis Hydref 2006, ysgrifennodd yr Arolygiaeth at randdeiliaid i ofyn am eu barn ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda hwy yn 2005 a 2006.  Ystyriwyd hyn fel dull o sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid ac yn diwallu eu hanghenion.  Mae Katrine Sporle yn rhannu canlyniadau'r ymgynghoriad.

Darllenwch yr erthygl "rhanddeiliaid  >>

Dychwelwch i'r top

Newyddion arall

Dyfalbarhad yn dwyn ffrwyth i Zelah

Er gwaethaf dros ugain o gyfweliadau aflwyddiannus, gwrthododd Zelah Vincent anobeithio, ac roedd wrth ei bodd pan glywodd yr oedd yr Arolygiaeth Gynllunio am ei phenodi.

Darllenwch am ddyfalbarhad Zelah >>

 

Cyfarfod Blynyddol yr Arolygiaeth Gynllunio i Arolygwyr

Adroddiad byr gan Leonora Rozee, y Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Polisi ar gyfarfod Blynyddol yr Arolygiaeth i Arolygwyr a gynhaliwyd ar 22 a 23 Mawrth 2007.

Darllenwch yr erthygl "Cyfarfod Blynyddol i Arolygwyr" >>

Dychwelwch i'r top