Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 5

CYFARFOD BLYNYDDOL I AROLYGWYR 2007Leonora Rozee

Cynhaliodd yr Arolygiaeth ei Gyfarfod Blynyddol gydag Arolygwyr ar 22 a 23 Mawrth ym Mryste. Yn y digwyddiad hwn rhoddwyd y newyddion diweddaraf i Arolygwyr ar y farn bolisi gyfredol gan Paul Husdon, Prif Gynllunydd CLG a Rosemary Thomas, Pennaeth Cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cawsant drafodaeth ar oblygiadau ymarferol polisi tai o dan PPS3, gan ddarparu adborth ar eu profiadau i gydweithwyr polisi yn CLG.  Cyfnewidiwyd y gwersi a ddysgwyd o archwilio Dogfennau'r Cynllun Datblygu, ac arweiniwyd cyflwyniad cynhwysfawr iawn a thrafodaeth ar Newid yn yr Hinsawdd gan Peter Ellis o CLG. 

Rhoddodd yr Arolygwyr Philip Ware a David Smith gyflwyniadau byr ar Adnewyddu'r Farchnad Dai a Goblygiadau Cynllunio yn y drefn honno; Rhoddodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Dave Crook ei farn ar y cysyniad o Gynllunio Gofodol, ac esboniodd y Rheolwr Arolygydd Ben Linscott faterion yn ymwneud ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng nghyd-destun yr archwiliad presennol o'r Ardal Gwarchodaeth Arbennig Rhostir Basn Tafwys ac Archwiliad Cyhoeddus Strategaeth Gofodol Rhanbarth De Ddwyrain Lloegr. 

Roeddem yn falch i groesawu ein gwesteion, Tim Corner, Cadeirydd y Panel Cynghori ar Safonau, Maire Campbell, Prif Gomisiynydd Comisiwn Apeliadau Cynllunio Gogledd Iwerddon, Robert Upton, Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a Gareth Morgan Cadeirydd y Gyfadran Cynllunio a Datblygu yn Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Leonora Rozee

Pennaeth Polisi

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr