Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru Cyhoeddiad 5

RHANDDEILIAID Delwedd Cyfarfod Randdeiliaid

Ar ddiwedd mis Hydref 2006, ysgrifennodd Sheila Rice at Randdeiliaid i holi eu barn ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio â Rhanddeiliaid yn 2005 a 2006.  Ystyriwyd hyn fel dull o sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid ac yn diwallu eu hanghenion. 

Ar y cyfan roedd yr adborth gan y sawl a oedd yn bresennol yn ffafriol, felly ymddengys ein bod ar y trywydd cywir, ond roedd rhai sylwadau/awgrymiadau y byddwn yn eu hystyried.  Roedd pob grŵp o'r farn ei bod yn briodol cynnal cyfarfod blynyddol.

Cyrff Rhanbarthol

Roedd y rhan fwyaf o'r farn bod y cyfarfod yn ddefnyddiol gyda'r cymysgedd cywir o bobl yn bresennol.  Roedd rhai o'r farn bod Llundain yn fwy canolog ac yn haws na Bryste i bobl deithio yno o fannau pell.  Dywedodd eraill y dylid cynnal digwyddiadau yng ngogledd neu ganolbarth Lloegr ambell waith.  Roedd yn bwysig hysbysu cynrychiolwyr o eitemau’r agenda ymlaen llaw i ganiatáu ar gyfer ymgynghori.  Roedd gan un cynrychiolydd ddiddordeb mewn bod yn rhan o grŵp ehangach o ddiddordebau na chyrff rhanbarthol. 

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi ychwanegu digwyddiad rhanddeiliaid yn Llundain, a gynhaliwyd gan Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer Llundain, a oedd yn gallu canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â Llundain.  Byddem yn agored i Swyddfeydd eraill y Llywodraeth sy'n dymuno cynnal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.  Bwriedir cynnal cyfarfod yng Nghymru yn yr hydref eleni.

Cyrff Proffesiynol

Roedd y cyfarfodydd a'r grwpiau yn synhwyrol.  Dangosodd cyfarfodydd rhanddeiliaid lefel uchel o ymrwymiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Awgrymwyd y dylid rhoi cyfle i bawb sydd yn y cyfarfod godi eu materion allweddol.

Cytunwyd.     Yn fodlon rhoi cyfle i bawb sy'n bresennol godi eu materion allweddol.

Cyrff Cyhoeddus

Canslwyd cyfarfod 2006 yn sgîl diffyg cefnogaeth.  Cafwyd sylwadau gan un sefydliad yn unig, sef bod rhai pobl yn anfodlon gan yr ymddengys nad oedd cyfle bellach i drafod rhai meysydd o ddiddordeb gyda'r Arolygiaeth Gynllunio;  awgrymwyd y dylid cynnal nifer o gyfarfodydd bob blwyddyn sy'n canolbwyntio ar faterion penodol yn hytrach na chynllunio gofodol.

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella'r sesiwn hon.

Grwpiau Buddiannau

Lleoliad/amseriad/hyd y cyfarfod/agenda yn iawn.  Y cyfarfod blynyddol yn iawn.  Roedd y grwpiau yn iawn ond gall fod yn fwy priodol i grwpio rhanddeiliaid yn ôl eu diddordebau h.y. y sawl sydd â diddordeb mewn materion hawliau tramwy yn mynychu gyda'i gilydd, er y gallai hyn olygu rhai sefydliadau yn mynychu fwy nag unwaith.  Ni ddylai un mater ddominyddu cyfarfod oni chytunir ar hyn ymlaen llaw - dominyddodd hawliau tramwy y cyfarfod diwethaf ac nid oedd yn haeddu gymaint o sylw.  Dylai cynrychiolwyr osgoi codi materion nad oes gan yr Arolygiaeth Gynllunio rheolaeth drostynt.  Gallai fod yn ddefnyddiol i'r Arolygiaeth Gynllunio roi cyflwyniadau ffurfiol ar agweddau ar ei gwaith.  Rhoddodd y cyfarfod fewnwelediad i'r ffordd y mae Arolygwyr yn gweithio, a'r materion a wynebir ganddynt wrth gymhwyso polisi'r Llywodraeth.  Byddai cyfarfodydd blynyddol gyda grwpiau defnyddwyr i drafod materion penodol o fudd.

Byddem yn fwy na pharod i deilwra'r cyfarfod hwn drwy ddechrau gydag agenda a rennir ac yna ffurfio dau (neu fwy) o is-grwpiau i ymdrin â meysydd penodol.

Y Grŵp Cyfreithiol

Byddai cyfarfod blynyddol rhwng PEBA/Cymdeithas y Cyfreithwyr/yr Arolygiaeth Gynllunio yn gyfle defnyddiol am drafodaeth ac i gyfnewid adborth.  Byddai Llundain yn lleoliad mwy priodol ond bydd Bryste yn dderbyniol.  Roedd yr agenda a'r fformat yn dda.  Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2007 i drafod materion sy'n benodol i Gymru;  cytunwyd bod cyfarfodydd ar wahân yn ddefnyddiol, a byddant yn parhau.

Rydym yn falch i gynnal cyfarfodydd rhwng Llundain a Bryste bob yn ail.

Y Panel Cynghori ar Safonau/Y Cyngor Tribiwnlysoedd

Mae Cyfarfodydd â'r Panel Cynghori ar Safonau a'r Cyngor Tribiwnlysoedd o natur a chymeriad gwahanol, yn canolbwyntio ar agweddau meintiol ac ansoddol y taged safonau a bennwyd gan Weinidogion i'r Arolygiaeth Gynllunio eu cyflawni'n flynyddol.  Dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd y sesiwn benodol hon;  gobeithiwn ddefnyddio sesiynau sydd i ddod i drafod arfer gorau ac arloesedd mewn gwasanaethau tribiwnlys.

Y Gymuned Ddatblygu

Roedd yr amseriad/lleoliad/cymysgedd y sawl a oedd yn bresennol yn foddhaol iawn.  Mae'r cyfarfodydd yn fuddiol iawn ac yn caniatáu rhanddeiliaid i werthfawrogi'r cyfyngiadau y mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithio o'u mewn, yn cynnwys rheolaeth gyllidebol.  Yn falch o'r cyfle i fynegi barn gyda chydweithwyr.  Awgrymodd un cynrychiolydd y dylid gohirio'r cyfarfod tan fis Medi.  Credodd y byddai'n ddefnyddiol ei gynnal ar yr un diwrnod â chyrff Cyfreithiol er mwyn cynnal sesiwn ar y cyd.

Byddwn yn parhau â'r cyfarfodydd hyn ar eu ffurf bresennol ar hyn o bryd, ac rydym hefyd yn agored i wahoddiadau gan grwpiau datblygu penodol i drafod materion sy'n ymwneud ag apeliadau.  Er enghraifft, rydym wedi cynnal trafodaethau yn ddiweddar gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.

Adolygiadau Cynlluniau Gofodol Rhanbarthol

Wrth i'r gyfres gyntaf o Adolygiadau Cynlluniau Gofodol Rhanbarthol ddod i ben yn hydref 2007, ein nod fyddai sefydlu cyfarfod o Randdeiliaid y Cynllun Gofodol Rhanbarthol.

Cyffredinol Sheila Rice

Croesewir sylwadau/cyfraniadau o ran yr hyn y dylid ei drafod mewn cyfarfodydd blynyddol rhanddeiliaid, a dylid eu hanfon at fy Nghynorthwy-ydd Personol, Sheila Rice Sheila.Rice@pins.gsi.gov.uk).

Katrine Sporle
Prif Weithredwr

>> Dychwelwch i'r Cylchlythyr