Mae Zelah Vincent yn dathlu bron 18 mis o gyflogaeth diolch i'w dyfalbarhad i oresgyn ei hanableddau corfforol a'r cymorth a dderbyniodd gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae Zelah wedi ymdopi â pharlys yr ymennydd ac wedi llwyddo i oresgyn y rhwystrau i gael swydd yn yr Arolygiaeth Gynllunio.
Roedd Zelah, sydd â phroblemau gyda'i golwg ac sy'n defnyddio cadair olwyn, eisiau cael cyflogaeth er mwyn bod yn annibynnol. Daeth y Ganolfan Byd Gwaith o hyd i hyfforddiant iddi mewn gweinyddu busnes, ac yna helpodd hi i chwilio am waith.
Ar ôl dros ugain o gyfweliadau aflwyddiannus, gwrthododd Zelah anobeithio, ac roedd wrth ei bodd pan glywodd yr oedd yr Arolygiaeth Gynllunio am ei phenodi. Mae Zelah'n gweithio yn yr adran weinyddu. Mae hi'n derbyn apeliadau cynllunio, yn eu gwirio, ac yna'n sicrhau bod y sawl sydd wedi gofyn i gael ei hysbysu am y penderfyniad yn cael copi.
Dywedodd: "Teimlais yn nerfus ac yn gyffrous pan ddechreuais oherwydd hon oedd fy swydd gyntaf. Ond ymgyfarwyddais yn fuan - rwyf wrth fy modd yn helpu cwsmeriaid."
Cefnogwyd Zelah gan y Ganolfan Byd Gwaith pan ddechreuodd yn ei swydd, gan drefnu hyfforddwr swydd er mwyn hwyluso ei chyfnod sefydlu.
Dywedodd Julia Burden o'r Ganolfan Byd Gwaith: "Llwyddodd Zelah trwy ddyfalbarhad a derbyn y cymorth a gynigwyd gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae ganddi agwedd gadarnhaol, ac mae'n ymgeisydd rhagorol."
Hefyd addasodd yr Arolygiaeth Gynllunio y gweithle, megis gosod meddalwedd i alluogi Zelah i ddefnyddio'r cyfrifiadur yn hawdd.
Dywedodd Steve Emler, ei rheolwr yn yr Arolygiaeth Gynllunio : "Mae Zelah'n gweithio'n galed iawn ac yn aelod poblogaidd o'n tîm. Mae ei llwyddiant yn deillio'n bennaf o'i hymroddiad a'i menter ei hun, yn ogystal â'r gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan ei chydweithwyr yma a rhaglen Cam at Waith y Ganolfan Byd Gwaith. ”
Cyngor Zelah i eraill sy'n chwilio am waith yw: "Dylech ddyfalbarhau pan nad yw pethau'n gweithio allan i gychwyn. Gwn o'm profiad fy hun y byddwch yn llwyddo os ydych yn benderfynol."