Diwrnod ym Mywyd Arolygwr Jennifer ArmstrongArolygwr Tai a Chynllunio Rhan-amserRwyf wedi bod yn Arolygwr mewn un ffordd neu'i gilydd ers sawl blwyddyn, er i mi gael dau gyfnod i ffwrdd pan anwyd fy mhlant. Rwyf bellach yn Arolygwr cyflogedig rhan-amser yn gweithio 26 wythnos y flwyddyn ond gall hynny gynyddu gyda digon o rybudd, felly mae'n drefniant hyblyg iawn. Mae hyn yn gweddu i'r dim: gallaf wneud swydd gyfrifol, fuddiol a hefyd treulio amser gyda'm plant, yn enwedig gan fod fy ngwr i ffwrdd yn aml. Gallaf hefyd barhau â'm diddordebau yn y gymuned leol. Fodd bynnag, mae un anfantais i'm ffordd i o weithio. Mae symud i fyny'r ysgol - ennill mwy - yn yr Arolygaeth yn gyffredinol yn golygu cynnal ymchwiliadau mwy a/ neu weithio ym Mryste. Golyga hyn, fod oddi cartref cartref am gyfnodau hirach. Felly, oherwydd fy mlaenoriaethau penodol, rwy'n hapus i aros fel yr ydw i. Nid yw gweithio rhan-amser yn awgrymu statws "eilradd" neu'n cyfyngu ar fy ymwneud ag agweddau eraill ar waith yr Arolygaeth: yn ddiweddar rwyf wedi rhoi anerchiadau ac wedi bod yn cyfweld cryn nifer o bobl sy'n chwilio am waith fel Arolygwr. Rwyf hefyd yn cael fy nghynnwys yn yr hyfforddiant mewn swydd arferol i arolygwyr. Mae gwaith yr Arolygaeth yn ddifyr ar unrhyw lefel. Mae hefyd yn waith manwl ac ymestynnol, yn galw am lawer o ganolbwyntio, safonau uchel a sgiliau cyfathrebu da. Yn ystod fy wythnos waith rwy'n gweld nad oes fawr ddim amser i unrhyw beth arall - yn wir mae ymhell o fod yn ddiflas! Nigel PayneUwch Arolygydd Cynllunio TaiYmunais â'r Arolygaeth ym Medi 1996 o'r sector preifat, lle roeddwn yn gyfarwyddwr mewn ymgynghoriaeth cynllunio a datblygu o faint canolig, symudais i waith cynllunio datblygiadau tua phedair blynedd yn ôl ac mae'n well gen i hynny na'r gwaith achos arferol adran 78 . Yn arbennig mae'n gyfle am batrymau gweithio gartref hyd yn oed mwy hyblyg yn ystod cyfnodau o adroddiadau hir, er bod cael gwraig amyneddgar yn hanfodol! Yn amlwg nid yw at ddant pawb, ond rwyf yn mwynhau'r cyfle i ganolbwyntio ar un prosiect mawr ar y tro, heb lawer o amhariadau, er hynny'n gweithio yn ôl terfyn amser pendant . Er y treulir ychydig mwy o amser oddi cartref, mae hyn fel arfer am gyfnodau eithaf byr ac rwy'n gwybod amdano ymhell ymlaen llaw felly gellir gwneud trefniadau priodol yn y cartref. Ar ôl i mi ddod yn Arolygydd, awgrymodd ffrindiau a chydweithwyr y gall fod yn fywyd unig. Fodd bynnag, wrth gadw mewn cysylltiad gyda rhwydwaith o bobl, gan gynnwys fy nheulu wrth gwrs, dros yr e-bost a'r ffôn symudol, nid yw hyn yn wir. Er bod angen rhywfaint o gynllunio ymlaen llaw, rwy'n parhau i chwarae criced yn rheolaidd yn yr haf ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i elusennau. Yn ddiweddar rhwyfais i lawr hyd Afon Tafwys er budd yr NSPCC gyda grwp o ffrindiau. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |