Graddau Gweinyddol: Fframwaith Cymhwyster
Rhaid i'r holl staff gweinyddol yn yr Arolygiaeth - ar lefel sy'n briodol
i'w gradd :-
Rhaid i staff ar raddfa uwch hefyd allu rheoli prosiectau.
Caiff y rhan fwyaf o staff eu recriwtio i raddau gweinyddol yr Arolygiaeth
ar lefel AA/AO. Felly, rydyn ni wedi cynnwys ar y safle hwn ddangosyddion
perfformiad ar gyfer y graddau hynny'n unig. Ond os hoffech gael gwybod
rhagor am y cymwyster angenrheidiol ar gyfer staff ar raddfa uwch, anfonwch
e-bost atom.
Cymwysterau a dangosyddion perfformiad AA/AO
Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith
Cymhwyster: Gosod amcanion a'u cyrraedd
- Yn gofyn am flaenoriaethau a therfynau amser clir, a chytuno arnynt
- Yn dangos hyblygrwydd wrth wynebu blaenoriaethau sy'n newid mewn amgylchiadau
newydd neu rai sy'n newid
- Yn dysgu'r diweddaraf am dasgau rheolaidd
- Yn deall sut mae ei waith ei hun yn cyfrannu at amcanion y Gangen a'r
Adran
- Yn gofyn cwestiynau i egluro blaenoriaethau a phenderfynu'r amser a'r
adnoddau sydd ar gael i gyflawni tasgau
- Yn canolbwyntio ar yr amcanion heb gael ei lethu gan fân anawsterau
- Yn dilyn tasg nes ei chwblhau'n iawn yn unol â'r amserlen sydd
wedi ei chytuno
- Yn gwahaniaethu rhwng blaenoriaethau a thasgau nad ydynt yn hanfodol
- Yn defnyddio'i farn i gael y cydbwysedd iawn rhwng ansawdd a bod yn
amserol
- Yn cymryd cyfrifoldeb dros ei waith ei hun
Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith
Cymhwyster: Gofal cwmseriaid
- Yn gwybod pwy yw'r prif gwsmeriaid am y gwasanaeth, yn yr Arolygiaeth
a'r tu allan
- Yn cymryd cyfrifoldeb dros broblem cwsmer, yn rhoi gwybod iddo/iddi
am y cynnydd ac yn cymryd camau i ddatrys y broblem
- Yn gadarn ond yn ddoeth wrth gyfleu safbwynt yr Arolygydd ac yn gwybod
sut i ddweud "na"
- Yn rhoi gwybodaeth a chyngor clir a chywir
Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith
Cymhwyster: Defnyddio a rheioli gwybodaeth
- Naill ai'n meddu ar fedrau cyfrifiadurol sylfaenol neu'n barod i'w
dysgu
- Yn gyfarwydd â phecynnau meddalwedd perthnasol ac yn barod i'w
defnyddio, neu'n fodlon dysgu sut i wneud hynny
- Yn gwybod pa wybodaeth sydd ar gael am system y swyddfa ac yn gwybod
sut i fynd i mewn iddi
- Yn deall sut all Systemau Gwybodaeth helpu cyflawni'r amcanion hyn
- Yn dilyn canllawiau 'Arferion Da' wrth weithredu systemau swyddfa
- Yn gwybod pa gyfarpar swyddfa sydd ar gael ac yn ei ddefnyddio'n effeithiol
- Yn gweithredu system rheoli ffeiliau sy'n glir, yn gyson ac yn ddiogel,
yn electronig ac ar bapur, gan gynnwys copiau wrth gefn
- Yn cadw copiau wrth gefn yn rheolaidd ar gyfer yr holl ddata pwysig
- Yn defnyddio cyfryngau electronig yn hytrach na phapur pryd bynnag
y bydd yn bosibl
- Yn defnyddio peiriannau llungopio a ffacs yn llwyddiannus
- Yn fodlon dysgu a defnyddio systemau a meddalwedd newydd wrth iddyn
nhw gael eu cyflwyno
- Yn ceisio datblygu ei fedrau SG ei hun
- Yn lleoli ac yn defnyddio cyfeirlyfrau safonol/defnydd cyfeirio/llawlyfrau/systemau
ffeilio etc ar gyfer systemau electronig a rhai papur
- Yn dilyn y drefn/systemau priodol ar gyfer trefnu, cyrchu a dosbarthu
gwybodaeth ar ffurf electronig ac ar bapur
- Yn cadw cofnodion cywir a'u diweddaru
- Yn cyrchu papurau a gwybodaeth yn brydlon
- Yn archwilio gwybodaeth o ran cywirdeb a chysondeb ac yn cymryd camau
cywiro priodol
- Yn cofnodi negesau teleffon yn gywir ac yn trosglwyddo negesau'n brydlon
- Yn deall ac yn dilyn trefniadau diogelwch ar gyfer storio a dosbarthu
defnydd cyfrinachol
Clwstwr cymhwyster: Rheoli gwaith
Cymhwyster: Defnyddio a rheoli adnoddau
- Yn defnyddio'i amser ei hun yn effeithiol
- Yn deall blaenoriaethau ac yn ymwybodol o effaith ei weithgareddau
ei hun ar eraill
- Darbodus wrth ddefnyddio adnoddau'r Arolygiaeth
- Yn gwneud cyfrifiadau rhifol cywir
- Yn cadw cofnodion ariannol manwl, cywir a llawn gwybodaeth lle mae'n
briodol
- Yn ymwybodol o effaith amgylcheddol defnyddio adnoddau
- Yn trefnu ei amser ei hun i ateb blaenoriaethau
- Yn nodi blaenoriaethau rheoli sy'n gwrthdaro, ac yn eu ceisio arweiniad
Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl
Cymhwyster: Rheoli Prosiectau
- Yn cymryd rhan weithgar mewn grwpiau prosiect neu fel aelod o Dimau
Sicrwydd Prosiectau neu grwpiau Defnyddwyr, lle mae'n briodol.
Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl
Cymhwyster: Gweithio mewn timau a'u rheoli
- Yn agored, yn onest ac yn gwrtais wrth ddelio â chydweithwyr,
ac yn barod i gynnig gwybodaeth a chymorth lle bydd angen
- Yn gwrando ar farn cydweithwyr
- Yn gwerthfawrogi nodau tîm, yn deall gwaith cydweithwyr uniongyrchol,
yn gallu cymryd eu lle pan fydd angen, ac yn barod i wneud hynny
- Yn rhannu gwybodaeth a phrofiad gydag aelodau eraill o'r tîm
- Yn gwybod pryd mae angen cyfeirio materion gwaith neu faterion personol
at y rheolwr llinell
- Yn rhoi gwybod i'r rheolwr llinell a'i rybuddio ef/hi a, unrhyw broblemau
posibl
- Yn cymryd cyfrifoldeb dros ei gamgymeriadau hun ac yn barod i fynegi
hynny os daw ar draws camgymeriadau/anghysondebau
- Yn datblygu ac yn cynnal perthynas weithio dda gydag adrannau eraill
- Yn amyneddgar ond yn gadarn gyda phobl anodd
Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl
Cymhwyster: Yn rhoi gwerth ar amrywiaeth
- Yn trin cydweithwyr, cwsmeriaid a chysylltiadau'n gwrtais ac yn barchus
- Yn rhoi gwerth ar amrywiaeth mewn perthynas weithio
- Yn dangos ymwybyddiaeth o'r ymrwymiad i ddatganiad cydraddoleb yr Arolygiaeth
wrth ddelio â chydweithwyr, cwsmeriaid a chysylltiadau o ddydd i
ddydd.
Clwstwr cymhwyster: Gweithio gyda phobl
Cymhwyster: Cynrychioli'r tîm/y Gangen/yr Adran/yr Arolygiaeth
- Yn ceisio deall safbwynt eraill ac yn cydweithredu â rhannau
eraill o'r Arolygiaeth i gyrraedd amcanion
- Yn creu ac yn cynnal cysylltiadau gyda chydweithwyr drwy'r Arolygiaeth
i gyd a chyrff eraill y mae eu gwaith yn gysylltiedig â'i waith
ei hun
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Cyfathrebu'n effeithiol
- Yn cyfathrebu'n glir â'i holl gydweithwyr a'i gwsmeriaid
- Yn gwrando, yn gofyn cwestiynau ac yn egluro'n briodol
- Yn cyflwyno achos yn glir gan ddarparu awgrymiadau am y ffordd ymlaen
- Yn rhoi gwybod i'r rheolwr llinell ac yn awgrymu dewisiadau os na ellir
cyrraedd terfynau amser
- Gwaith ysgrifenedig yn cydymffurfio â safonau a phatrymau'r Arolygiaeth
ac yn cael ei gyflwyno'n glir ac yn dwt
- Yn defnyddio gramadeg, yn atalnodi ac yn sillafu'n gywir
- Yn defnyddio Saesneg clir
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Delio â newid a'i reoli
- Yn fodlon rhoi cynngi ar ffyrdd newydd i weithio, a dysgu tasgau neu
fedrau newydd, ac yn agored i syniadau newydd
- Yn symud yn briodol rhwng tasgau
- Yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am drefn a newidiadau eraill sy'n effeithio
ar ei faes gwaith ei hun
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Trafod a dylanwadu
- Yn delio'n hyderus a doeth â phobl o fewn y sefydliad a'r tu
allan
- Yn ymwybodol o effaith eraill ac yn meithrin cydweithrediad gyda chydweithwyr
- Yn ddoeth ond yn ddygn wrth delio ag eraill
- Yn gwybod â phwy i ymgynghori a phryd
- Yn hunan-hyderus a chadarn, yn cyflwyno dadl resymegol, yn barod i
sefyll ei dir pan fydd angen
- Yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd pan fydd yn briodol
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Egni a phenderfyniad
- Yn delio â gwaith anodd neu ailadroddus heb oedi
- Yn bodloni terfynau amser neu'n dweud wrth y rheolwr os na ellir gwneud
hynny
- Yn gweithio'n gyson ac yn gwneud ymdrech ychwanegol i ddelio â
llwythi gwaith mawr
- Yn canolbwyntio ar y dasg dan sylw, heb gael ei rwystro gan fân
anawsterau neu broblemau
- Yn gadarn ac yn barod i leisio barn
- Yn derbyn cyfrifoldeb dros ei waith ei hun ac yn dilyn pethau drwodd
i'r diwedd
- Yn ddibynadwy a digyffro dan bwysau
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- Yn dangos amynedd a phenderfyniad wrth fynd i wraidd problem a'i datrys
- Yn crynhoi'r ffeithiau perthnasol a/neu'r dogfennau sydd wrth law ac
yn meddwl drwy'r mater yn rhesymegol
- Yn deall terfynau ei awdurdod ei hun ac yn gwybod pryd i ymgynghori
ag eraill neu roi gwybod iddynt
- Yn awgrymu sut i gael canlyniadau yn hytrach nag aros i rywun ddweud
wrtho, yn gwneud penderfyniadau'n unol â hynny, heb adael i bethau
lusgo ymlaen
- Yn ystyried ac yn trafod barn cyn gweithredu
- Yng wybod ble i gael gwybodaeth a chyngor a sut i'w defnyddio
- Yn ceisio dod o hyd i atebion yn ogystal â nodi problemau
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Yn rhoi gwerth ar ddysgu a syniadau newydd
- Yn deall swyddogaeth dysgu mewn bywyd gweithio bob dydd
- Yn dangos parodrwydd i ddysgu a derbyn syniadau newydd
- Yn rhannu gwybodaeth a medrau gyda chydweithwyr
- Yn dysgu o brofiad
- Yn cadw meddwl agored wrth wrando ar syniadau a barn eraill
- Yn gwybod beth yw terfynau ei wybodaeth a'i arbenigedd a ble i gael
gwybodaeth bellach a chyngor
- Yn derbyn cyfarwyddiadau ac arweiniad rhesymol
- Yn barod i fynegi barn a chyflwyno syniadau
- Yn ceisio cymhwyso dysg newydd yn briodol mewn gweithgareddau gwaith
- Yn gofyn cwestiynau priodol
Clwstwr cymhwyster: Effeithiolrwydd personol
Cymhwyster: Arfarniad a datblygiad staff
- Yn barod i ddysgu medrau newydd ac yn ymgyfarwyddo'n gyflym â
ffyrdd newydd o weithio
- Yn croesawu cyfle i ddatblygu cymhwyster
- Yn cadw Cynllun Datblygiad Personol wedi ei ddiweddaru, neu'r hyn sy'n
cyfateb, ac yn ei arolygu'n rheolaidd gyda'r rheolwr llinell
- Yn ymateb yn gadarnhaol i ymateb adeiladol
- Yn cydnabod tyndra ac yn defnyddio strategaethau cadarnhaol ac adeiladol
o dan bwysau
- Yn cymryd diddordeb byw yn ei ddatblygiad ei hun ac yn cytuno ar gamau
gyda'r rheolwr llinell
- Yn cymryd rhan weithgar mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygiad
Clwstwr cymhwyster: Gwybodaeth am yr Arolygiaeth,
Cynllunio Busnes a meddwl strategol
Cymhwyster: Deall swyddogaeth, strwythurau, amcanion a gweithdrefnau'r
Arolygiaeth Gynllunio
- Yn deall swyddogaeth yr Arolygiaeth a sut mae ei swydd yn rhan ohoni
- Yn deall swyddogaeth a chyfraniad cydweithwyr yn y tîm, y Gangen
a'r Adran
- Yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau neu ddatblygiadau yn
yr Arolygiaeth sy'n effeithio ar ei faes busnes ei hun
- Yn gyfarwydd â threfn sylfaenol yr Arolygiaeth ac yn ei defnyddio,
er enghraifft, o ran diogelwch, ac iechyd a diogelwch
- Yn deall ac yn defnyddio trefn ariannol yr Arolygiaeth lle bydd yn
briodol
Clwstwr cymhwyster: Gwybodaeth am yr Arolygiaeth,
Cynllunio Busnes a meddwl strategol
Cymhwyster: Cyfrannu at y broses Cynllunio Busnes
- Yn ymwybodol o'r broses cynllunio busnes a'i diben
- Yn sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cydymffurfio â'r
Cynllun Busnes
|