Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cymwysterau Craidd - Arolygydd Cynllunio

 

Nodiadau: Dangosir y cymwysterau mewn llythrennau bras. Rhestrir isod y meini prawf perfformiad ar gyfer cyflawni pob cymhwyster

A. Effeithiolrwydd Personol

  1. Dangos cywirdeb, gonestrwydd, tegwch a natur agored
  2. Creu a chynnal proffil gweladwy a pharchus y gellir ymwneud ag ef yn rhwydd
  3. Dangos awdurdod a hunanhyder priodol
  4. Meddu ar ymagwedd dawel, hyblyg gan ddelio’n effeithiol â digwyddiadau sydyn ac annisgwyl
  5. Rheoli sefyllfa lle bo’n briodol
  6. Sefydlu a rheoli pobl yn briodol mewn ymchwiliadau, gwrandawiadau ac ymweliadau â’r safle
  7. Trin pob cydweithiwr, cwsmer ac enw cyswllt â chwrteisi a pharch
  8. Dangos ymwybyddiaeth o ddatganiad cydraddoldeb yr Arolygiaeth ac ymrwymiad iddo wrth ymwneud â phob cydweithiwr, cwsmer ac enw cyswllt o ddydd i ddydd

B. Gwneud Penderfyniadau a Dyfarniadau

  1. Dangos prosesau meddwl dadansoddol a rhesymegol
  2. Dadansoddi gwybodaeth anghyson a gwneud penderfyniadau/argymhellion pwyllog, rhesymegol ac amserol
  3. Rhagweld a datrys problemau
  4. Gwneud dyfarniadau doeth wrth wneud pob penderfyniad
  5. Casglu digon o wybodaeth briodol i lywio penderfyniada
  6. Gweithredu’n bendant, ar ôl asesu’r sefyllfa, y cyd-destun a’r canlyniadau posibl

C. Arbenigedd a Chymwyseddau Proffesiynol

  1. Defnyddio gwybodaeth broffesiynol yn effeithiol ym mhob gweithgaredd
  2. Cyfeirio materion proffesiynol neu arbenigol at eraill pan fydd angen gwneud hynny
  3. Cynnal cymwyseddau proffesiynol drwy ddilyn yr arweiniad, cyngor a’r datblygiadau technegol a gyhoeddwyd
  4. Deall y polisi cenedlaethol a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i’r gwaith achos
  5. Ymgymryd ag ymchwil i feysydd o wybodaeth arbenigol, yn ôl yr angen.
  6. Gweithredu’n bendant, ar ôl asesu’r sefyllfa, y cyd-destun a’r canlyniadau posibl

Ch. Cyfathrebu

  1. Y gallu i ganolbwyntio a gwrando’n weithredol am gyfnodau estynedig
  2. Gofyn cwestiynau a’u hegluro’n briodol
  3. Defnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu’n gywir
  4. Defnyddio Cymraeg Clir a Plain English ac egluro materion technegol mewn termau sy’n hawdd eu deall
  5. Y gallu i grynhoi gwybodaeth fanwl yn glir
  6. Arwain a chymryd rhan mewn trafodaethau
  7. Siarad ac ysgrifennu yn gryno, rhesymegol ac awdurdodol
  8. Ystyried barn eraill

D. Rheoli eich hun

  1. Dangos parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o weithio
  2. Ymateb yn gadarnhaol i adborth adeiladol gan groesawu’r cyfle i ddatblygu Rhinweddau Personol
  3. Cydnabod ac ymdopi â straen
  4. Cymryd diddordeb byw yn ei briod ddatblygiad proffesiynol a phersonol
  5. Trrefnus gyda’r gallu i flaenoriaethu gwaith a rheoli amser yn effeithlon
  6. Derbyn cyfrifoldeb dros benderfyniadau a chamau a gymerwyd
  7. Hunanddibynnol ac yn barod i weithio ar ei ben ei hun mewn amrywiaeth o fannau gwaith lle y bydd ar ei ben ei hun yn aml
  8. Y gallu i ddelio â galwadau corfforol ymweliadau â’r safle ac amgylchedd ymchwiliadau/gwrandawiadau

Dd. Perthynas â'r Sefydliad

  1. Dilyn y gweithdrefnau diweddaraf a newidiadau eraill sy’n effeithio ar ei briod faes gwaith chi
  2. Deall diben targedau a’r cyfraniad y mae angen i Arolygwyr Maes ei wneud tuag at gyflawniad eu gwaith
  3. Deall ei gyfraniad ei hun tuag at Weledigaeth ac Amcanion yr Arolygiaeth
  4. Deall y broses cynllunio busnes a chyfrannu ati lle bo’n briodol
  5. Ceisio cyfrannu at wella effeithlonrwydd a gwerth am arian
  6. Gweithredu system rheoli ffeiliau effeithlon a diogel
  7. Rhoi mewnbwn gweithredol ac adeiladol tuag at sefydliad y pencadlys ac mewn cyfarfodydd/seminarau grwp ac is-grwp

Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English