Gweithio Gartref - Y dewis iawn i chi?CyflwyniadYn wahanol i nifer o swyddi eraill, bydd Arolygydd Cynllunio yn treulio llawer iawn o'i amser yn gweithio gartref. Er y gall llawer o bobl ystyried bod hynny'n nodwedd deniadol iawn yn y gwaith, mae'n bwysig cydnabod bod yna anfanteision yn ogystal â buddiannau o weithio fel hyn. Cyn penderfynu gwneud cais, dylech holi'ch hun a yw gweithio gartref yn debygol o achosi unrhyw broblemau i chi, ac os felly, a ellir datrys y problemau hynny. Gall rhai o'r problemau fod yn gymwys i chi, ond nid i bobl eraill. Mae'r holiadur hwn wedi ei lunio i'ch helpu bwyso a mesur a yw gweithio gartref yn bosibilrwydd ymarferol i chi. Mae wedi ei fwriadu i'ch helpu i feddwl am y pynciau. Sut i ddefnyddio'r holiadur hwn
Rhowch gylch o gwmpas 'A' os credwch na fyddai'n achosi problem i chi. Rhowch gylch o gwmpas 'B' os credwch y gall fod rhai problemau ond na fyddent yn broblemau mawr i chi. Rhowch gylch o gwmpas 'C' os credwch y byddai'r broblem yn achosi gofid sylweddol i chi. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |