Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllawiau Man Gweithio i Arolygwyr sy'n Gweithio Gartref

Y nod yw darparu amgylchedd lle gallwch weithio'n ddiogel, yn effeithlon ac yn gyffyrddus. Dylai hwnnw fod yn fan tawel ar wahân lle na fydd neb arall o'r teulu'n tarfu arnoch. Dylai'r man gael ei oleuo'n dda (yn naturiol neu'n artiffisial), heb ormod o sðn gyda digon o awyru a gwresogi.

Dylid cael lle o leiaf ar gyfer y canlynol:

  • Dodrefn a chyfarpar
  • Desgiau 1600mm x 800mm ac 1200mm x 800mm, o ddewis wedi eu trefnu ar ffurf L er mwyn eu defnyddio'n hwylus.
  • VDU, allweddell, argraffwr a theleffon (gyda pheiriant ateb lle mae hynny'n briodol).
  • Drorau i storio defnydd ysgrifennu (piniau, papur, ffurflenni, etc).
  • Cadair
  • Bin sbwriel.

Byrddau gweithio

Dylid cael byrddau gweithio digonol a di-rwystr, 1200mm x 800mm, dyweder, er mwyn gosod planiau, dogfennau a defnydd arall allan.

Storio

Dylid cael man storio digonol gan gynnwys hyd at 4m o silffoedd (neu'r hyn sy'n cyfateb mewn mathau eraill o ddulliau storio) ar gyfer ffeiliau gweithio cyfredol, gwybodaeth gefndir gyffredinol, fel y Llawlyfrau Arolygwyr a Chynllunio, Deddfau Seneddol, cylchlythyrau'r llywodraeth, offerynnau statudol, llyfrau cyfeirio proffesiynol a defnydd archif.

Dylai'r man storio ar gyfer gwaith cyfredol a gwybodaeth gefndir fod o fewn cyrraedd i'r bwrdd gweithio. Gellir gwneud trefniadau arbennig os byddwch yn delio ag achos sy'n golygu nifer fawr o ddogfennau, fel cynllun lleol, neu un sy'n gofyn am fan storio archif sylweddol.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, rydych yn debygol o weld bod arnoch angen rhagor o waith storio/gweithio. Fodd bynnag, gall defnyddio mwy o gyfryngau storio electronig gydbwyso'r angen cynyddol am le.

Cyffredinol

Rhaid gallu symud yn hawdd rhwng yr holl ddarnau cyfarpar a storio, switsys a socedi, mannau awyru, goleuo a gwresogi, a dulliau dianc. Dylid cael digon o le heb ei ddefnyddio i roi rhyddid i symud o fewn y man gweithio.

Fel canllaw, dylai o leiaf 2.5m x 2.6m fod yn ddigonol i gynnwys yr holl eitemau hyn. Fodd bynnag, mae safle drysau, ffenestri, socedi a ffynonellau gwres a ffurf yr ystafell i gyd yn debygol o effeithio ar faint o le sydd eisiau. Mae gan yr Arolygiaeth ei Desg Gymorth ei hun i gynghori Arolygwyr am faterion fel cynllun ystafelloedd a lleoli mannau pðer a theleffon.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English