Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gweithio fel Arolygydd Cynllunio

Rydyn ni'n cyflogi tua 300 o Arolygwyr Cynllunio, sydd i gyd â chymwysterau proffesiynol, er enghraifft, fel cynllunwyr trefol, penseiri, cyfreithwyr neu beirianwyr. Gweler y ddogfen Graddau, cyflogau a threfniadau pensiwn Arolygwyr Cynllunio am wybodaeth am daliadau a'r buddiannau.

Mae'r gwaith yn gofyn am gyfuniad anarferol o fedrau. Ar y naill law, rhaid i Arolygwyr fod yn hunan-ddigonol ac yn gallu gweithio ar eu pen eu hunain heb arolygiaeth am gyfnodau hir; ar y llaw arall, rhaid iddynt gael yr hunan-hyder a'r "presenoldeb" i reoli ymchwiliadau cyhoeddus. Mae'r cymwysterau y credwn sydd eisiau ar Arolygydd wedi eu cynnwys yn y Fframwaith Cymwysterau Craidd Arolygwyr Cynllunio.

Bydd Arolygwyr yn gweithio gartref ac yn dod i'r swyddfa'n achlysurol. Gall gweithio gartref achosi anawsterau i rai pobl. Mae'r Holiadur hunan-asesu wedi ei lunio gan seicolegwyr o'r Gwasanaeth Recriwtio ac Asesu i helpu Arolygwyr posibl i benderfynu ai gweithio gartref yw'r dewis iawn yn eu gyrfa hwy. Beth am lenwi'r holiadur i weld a fyddai'r dull gweithio hwn yn addas i chi?

Mae angen lle ar Arolygwyr yn eu cartrefi i gymryd y cyfarpar swyddfa, gan gynnwys PC a'r holl ddefnydd cyfeirio angenrheidiol. Mae'r canllawiau mannau gweithio yn dangos beth rydyn ni'n credu sy'n angenrheidiol. Lluniwyd y canllawiau hyn gan ein hymgynghorwyr ergonomaidd - System Concepts Cyf. Byddwn yn hysbysebu am Arolygwyr newydd yn y wasg broffesiynol - fel rheol "Planning" ac weithiau mewn cylchgronau proffesiynol eraill - felly, peidiwch â chysylltu â ni am swyddi gwag. Caiff ein swyddi gwag cyfredol eu hysbysebu hefyd ar y safle hwn. Ond os bydd gennych unrhyw gwestiynau nad yw'n gwefan yn delio â hwy, cysylltwch â ni.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English