Gweithio yn Swyddfeydd yr ArolygiaethMae gan ein staff gweinyddol yn y swyddfa amrywiaeth helaeth o swyddogaethau:
Mae gan ein staff gweinyddol amrywiaeth helaeth o fedrau:
Mewn nifer o swyddi hefyd mae angen cymwysterau swyddogaethol penodol. Darllenwch y fframwaith cymwysterau craidd ar gyfer graddau gweinyddol i gael rhagor o wybodaeth. Recriwtio i'r graddau gweinyddolCaiff swyddi gwag eu llenwi naill ai drwy recriwtio agored neu drwy ddyrchafiad o radd is. Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau "chwilio" neu asiantaethau cyflogi i lenwi'n swyddi parhaol. I gael gwybodaeth am gyflogau, darllenwch y Ddogfen strwythur graddau a chyflogau. Caiff y rhan fwyaf o bobl eu recriwtio ar lefel Cynorthwy-ydd Gweinyddol (AA) neu Swyddog Gweinyddol (AO). Pryd bynnag y bydd angen i ni lenwi swydd wag drwy recriwtio, byddwn yn rhoi hysbysebion yn y Canolfannau swyddi perthnasol a/neu'r papur lleol perthnasol. Fodd bynnag, os yw'n swydd arbenigol benodol - er enghraifft, mewn TG, Cyllid neu Gynllunio - byddwn yn hysbysebu yn y cylchgronau proffesiynol priodol. Ein gofyniad isaf fel rheol yw y dylech gael 2 bwnc TGAU (neu'r hyn sy'n cyfateb) i ddod i mewn ar y radd AA; i ddod i mewn ar y radd AO dylech gael 5 pwnc TGAU. Mae dod i mewn ar raddau uwch yn gofyn am o leiaf ddau bwnc lefel 'A' a/neu gymwysterau mwy penodol. Ar y ddalen hon hefyd fe welwch amlinelliad o delerau ac amodau cyflogi staff yng ngraddau gweinyddol yr Arolygiaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael swydd yn yr Arolygaeth Gynllunio, peidiwch â chysylltu â ni i holi am swyddi gwag. Caiff ein swyddi gwag cyfredol eu hysbysebu hefyd ar y safle hon. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael sylw rywle arall ar ein gwefan, cofiwch gysylltu â ni. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |