Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cynllun Cyfnewid y De Orllewin

logo Cynllun Cyfnewid y De Orllewin

Hanes
Cynllun Cyfnewid
Nodau Cyfnewid
Ystod y Digwyddiadau
Secondiadau, Benthyciadau, Ymlyniadau Tymor Byr
Swyddi Gwa
Gwybodaeth Bellach a Chysylltiadau Perthnasol

Hanes

Mae Cyfnewid yn Fenter gan y Llywodraeth sy'n hybu'r broses o gyfnewid pobl ac arfer da rhwng y Gwasanaeth Sifil a sefydliadau mewn sectorau eraill. Mae'r Gwasanaeth Sifil wedi trefnu rhaglenni cyfnewid gyda diwydiant ers y 1970au ac mae ganddo Uned Gyfnewid ers diwedd y 1990au. Mae proffil cyfnewid wedi ei godi ers cyhoeddiad Papur Gwyn Moderneiddio'r Llywodraeth, ac yn fwy ddiweddar Agenda Diwygio'r Gwasanaeth Sifil .

Cynllun Cyfnewid

Mae partneriaethau wedi eu sefydlu erbyn hyn gyda nifer o adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth yn y rhanbarth. Mae'r sefydliadau hyn yn cynrychioli Cynllun Cyfnewid y De Orllewin [SWIS] ac maent yn gweithio yn agos gyda'i gilydd i hybu cyfnewid, secondiadau a'r gallu i symud o un swydd i'r llall.

Nodau Cyfnewid

Mae Cyfnewid yn darparu cyfleoedd datblygu gyrfa, trwy gyfrwng profiad uniongyrchol mewn amgylchedd gwaith gwahanol. Yn ogystal â bod yn fanteisiol i'r unigolyn, mae'r sefydliad sy'n derbyn yr unigolyn a'r sefydliad sy'n cynnig gwasanaeth yr unigolyn yn elwa drwy gyfnewid syniadau a sgiliau.

Ystod y Gweithgareddau

Secondiad y tu allan i'r Gwasanaeth Sifil

Penodi gwas sifil yn wirfoddol a thros dro mewn sefydliad y tu allan i'r Gwasanaeth Sifil

Secondiad i mewn i'r Gwasanaeth Sifil

Penodi rhywun nad yw'n was sifil dros dro mewn sefydliad o fewn y Gwasanaeth Sifil

Benthyg

Trosglwyddo dros dro o fewn yr un sefydliad neu i adran neu asiantaeth arall o'r llywodraeth (fel arfer ddim llai na 3mis)

Ymlyniad

Lleoliad tymor byr i weithio ar brosiectau neu astudiaethau tymor byr

Gefeillio

Dau unigolyn ar lefelau tebyg mewn gwahanol sefydliadau yn cyfarfod yn rheolaidd i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i gefnogi ei gilydd

Cysgodi

Gweithio ochr yn ochr ag unigolyn am gyfnod byr o amser (fel arfer rhywle rhwng diwrnod ac wythnos)

Mentora

Datblygu aelod o staff trwy gyfrwng cysylltiad ac adborth rheolaidd gyda chydweithiwr arall

Cyfleoedd Anweithredol

Gweithio fel cyfarwyddwr anweithredol, neu mewn rôl ymgynghorol, ar fyrddau cynorthwyol, pwyllgorau neu dimau prosiect ar y cyd

Hyfforddiant ar y Cyd

Seminarau a rhaglenni hyfforddiant hwy gyda chyfranogwyr o sefydliadau eraill

Grwpiau Contract neu Drafod

Grwpiau'n cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sydd o ddiddordeb iddynt i gyd

Secondiadau, Benthyciadau ac Ymlyniadau Tymor Byr

Mae cynllun Cyfnewid y De Orllewin yn cefnogi egwyddor secondiadau, benthyciadau ac ymlyniadau tymor byr fel ffordd o ddatblygu sgiliau ei staff. Gall y lleoliadau dros dro hyn:

· Darparu cyfleoedd datblygu gyrfa
· Gwella cysylltiadau a rhwydweithiau rhwng sefydliadau
. Gwella dealltwriaeth rhwng is-adrannau a sefydliadau
· Rhoi cyfle i feddwl yn ehangach a rhannu arfer da
· Galluogi unigolion i fuddsoddi yng ngwaith eraill

Gellir trefnu lleoliadau a gweithgareddau cyfnewid trwy gyfrwng Tîm Datblygu Talent yr Arolygiaeth, Adnoddau Dynol. Mae rhestr o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid ar gael, a gellir ystyried lleoliadau gyda sefydliadau nad ydynt wedi eu rhestru. Hysbysebir cyfleoedd pan fyddant yn codi, ond gall unigolion drefnu eu lleoliadau eu hunain sy'n cynnig cyfle i ddatblygu gyrfa, gyda chymorth y Tîm Datblygu Talent.

Trefnir lleoliadau ar sail dros dro a gwirfoddol, heb newid telerau ac amodau cyflogaeth yr unigolyn gyda'r Gwasanaeth Sifil. O bryd i'w gilydd, bydd angen mabwysiadu telerau ac amodau penodol, yn arbennig ar gyfer lleoliadau mewn sefydliadau y tu allan i'r Gwasanaeth Sifil. Os yw hyn yn angenrheidiol, bydd yr holl bartïon yn cytuno ar y manylion cyn i'r lleoliad ddechrau.

Swyddi Gwag

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein tudalen Cynllun Cyfnewid Swyddi Gwag y De Orllewin.

Gwybodaeth bellach a Chysylltiadau Perthnasol

Am wybodaeth bellach am y cynllun hwn neu i gael gwybod am swyddi gwag cyfredol, cysylltwch
Fran Moot 0117 372 6394 neu
e-bostiwch: fran.moot@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English