Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

A YDYCH YN WEITHIWR CYNLLUNIO PROFFESIYNOL?

A YDYCH YN MWYNHAU GWEITHIO'N ANNIBYNNOL?

Os felly, a ydych wedi ystyried gweithio ar sail ymgynghori i'r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu ar Apeliadau Cynllunio?

Ein nod yw defnyddio ein harbenigedd diduedd ym maes cynllunio a defnydd tir i helpu i lunio amgylcheddau wedi'u cynllunio'n dda a sicrhau datblygu cynaliadwy. Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan: www.arolygiaeth-gynllunio.gov.uk

Un o'n swyddogaethau allweddol yw penderfynu ar apeliadau cynllunio, fel arfer o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Cyflawnir y gwaith hwn gan ddefnyddio ein gweithlu cyflogedig a'n Harolygwyr nad ydynt yn gyflogedig a ddefnyddir fesul achos.

Rydym yn chwilio am wasanaethau nifer o Arolygwyr Nad ydynt yn Gyflogedig ychwanegol.

Cymwysterau a Phrofiad

Mae'n rhaid bod gennych gymhwyster proffesiynol sy'n gysylltiedig â chynllunio, ac mae'n rhaid eich bod yn aelod o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.  Mae'n debygol eich bod wedi gweithio yn eich maes dewisol am nifer o flynyddoedd a bydd gennych brofiad sylweddol ar lefel uwch. Mae'n rhaid bod gennych sgiliau rhyngbersonol gwych hefyd.

Rydym yn cynnig sesiynau briffio cynhwysfawr ar ffyrdd yr Arolygiaeth o weithio cyn i chi wneud gwaith achos i ni.

Argaeledd:

Mae'n rhaid eich bod ar gael yn ystod mis Ionawr 2009 ar gyfer sesiynau briffio ac am gyfnod sylweddol hyd at fis Ebrill 2009 er mwyn sicrhau'r budd mwyaf o'r briffio hwnnw.

Mae'r rôl yn cynnig:

  • Gweithio ar sail hyblyg, gan dalu ffi fesul achos;
  • Telir ffi o £238 i fyny fesul achos, yn codi i £280 fesul achos pan fyddwch wedi dangos y gallwch gynhyrchu'r safon ofynnol o waith achos yn gyson, (gall Arolygwyr nad ydynt yn gyflogedig profiadol wneud hyd at naw achos bob pythefnos); a
  • Gweithio o gartref gyda'r cyfle i deithio yn Lloegr a/neu Gymru;

Croeso gan y Prif WeithredwrKatrine Sporle

Diolch i chi am eich diddordeb yn yr Arolygiaeth Gynllunio.  Byddwch yn ystyried pa un a ddylech fynd â'ch diddordeb ymhellach ac yn arbennig pa un a fyddai rôl Arolygydd nad yw'n cael cyflog misol yn brofiad boddhaus, gwerth chweil.  Yn amlwg, rwyf am eich perswadio y byddai.

Mae gweithio i'r Arolygiaeth Gynllunio yn golygu y byddwch yn bwysig iawn o ran gwneud penderfyniadau.  Byddech yn defnyddio eich arbenigedd diduedd o ran cynllunio a defnydd tir i helpu i lunio amgylcheddau sydd wedi eu cynllunio'n dda - dyna ein nod mewn bywyd.  A byddech yn gwneud hynny gan ddilyn cyfres glir o werthoedd y mae tegwch a bod yn agored wrth eu craidd.

Rydym yn chwilio am bobl sydd ag egni, ymrwymiad ac arbenigedd proffesiynol.  Gobeithiaf y darllenwch ymlaen ac y byddwch yn ystyried gwneud cais i gofrestru fel Arolygydd nad yw'n cael cyflog misol ar yr adeg bwysig hon o ddiwygio cynllunio.

Dymuniadau gorau,

Katrine Sporle
Prif Weithredwr

Lawrlwythwch y canllaw gofyniadau ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf Word Word 117kb
Lawrlwythwch y canllaw gofyniadau ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf PDF 59kb

Lawrlwythwch y ffurflen gais mewn ffurf Word Word 238kb

Lawrlwythwch y nodiadau canllaw ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf Word Word 334kb
Lawrlwythwch y nodiadau canllaw ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf PDF PDF 48kb

Lawrlwythwch y llawlyfr ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf Word Word 460kb
Lawrlwythwch y llawlyfr ar gyfer arolygwyr nad ydynt ar gyflog misol mewn ffurf PDF PDF 292kb

Lawrlwythwch arolwg monitro amrywiaeth mew ffurf Word Word 266kb

Lawrlwythwch TELERAU AC AMODAU'R CONTRACT mewn ffurf Word Word 172kb
Lawrlwythwch TELERAU AC AMODAU'R CONTRACT mewn ffurf PDF PDF 60kb

 

I wneud cais:

Mae pecynnau gwneud cais ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. www.planning-inspectorate.gov.uk/cymru/cym/recruitment/index_w.htm
Maent hefyd ar gael yn Saesneg o
www.planning-inspectorate.gov.uk/pins/recruitment/index.htm

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw dydd Gwener 3ydd Hydref 2008.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn cael eu gwahodd i Ganolfan Asesu yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3ydd Tachwedd 2008.

Cynhelir cyfweliadau terfynol yn ystod yr wythnos yn cychwyn 24ain Tachwedd 2008.  


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English