Cyfleon Cyfartal

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymrwymo i sicrhau:
- cyfraddoldeb cyfleon, a
- bod ein systemau yn gyfiawn, yn agored, yn wrthrychol ac yn weladwy
i'r rhai sydd oddi mewn ac oddi allan i'r sefydliad.
Ymdrechwn i hybu'r agwedd hon gyda phob un y byddwn yn dod i gysylltiad
â hwy. Credwn hefyd ein bod oll yn gyfrifol am sicrhau bod egwyddorion
uchaf cyfleon cyfartal yn cael eu gweithredu.
Fel sefydliad cyfleon cyfartal, nid ydym yn gwahaniaethu rhwng pobl ar
sail eu:
- hil
- tarddiad ethnig neu genedlaethol
- oedran
- crefydd
- rhyw
- statws priodasol
- anabledd
- statws rhan-amser
- tueddiadau rhywiol
Mae pob aelod staff yn gallu herio agweddau ac arferion sy'n gwahaniaethu.
Mae pob swydd o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio - boed yn Arolygydd neu
yn gweithio yn ein swyddfeydd - yn agored i staff sydd am weithio rhan-amser.
Mae amryw o drefniadau ar gael, er enghraifft gweithio yn ystod y tymor
ysgol, gweithio am dair wythnos ym mhob pedair, neu oriau rhan-amser.
Cysylltiadau Perthnasol
Mae'r cysylltiadau isod yn agor eich porwr mewn ffenestr newydd.
Sut i edrych ar ddogfennau PDF
Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio
Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|