Swyddi
Mae’r swyddi canlynol ar gael yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
1 CYNORTHWY-YDD GWEINYDDOL
Cyfeirnod EB-01-08
Swydd dros dro am tua 9 mis gyda’r posibilrwydd o’i gwneud yn swydd barhaol yw hon. Bydd dyletswyddau’r swydd yn cynnwys: Delio â phost, ffeilio, diweddaru taenlenni, sganio, llungopïo, cymryd negeseuon ar y ffôn a dyletswyddau clerigol cyffredinol eraill.
Ar gyfer y swydd mae’n rhaid i chi feddu ar:
- 2 TGAU Gradd C neu’n uwch, neu gymwysterau cyfatebol
- Profiad TG o Word ac Excel
- Er nad yw’n hanfodol, byddai’n ddymunol pe bai gennych brofiad o weithio mewn tîm a phrofiad o ddelio ag ymholiadau dros y ffôn a gwybodaeth o’r iaith Gymraeg.
2 SWYDDOGION GWEINYDDOL PARHAOL
Cyfeirnod EB-02-08
Bydd dyletswyddau’r swydd yn cynnwys: Gweinyddu amrywiaeth o waith achos cynllunio sy’n gysylltiedig yn bennaf â Chynlluniau a Gorchmynion Datblygu; Prosesu Adroddiadau arolygwyr i Lywodraeth Cynulliad Cymru o fewn terfynau amser a thargedau; Gweinyddiaeth a chymorth o ran gwaith cyfieithu a Chynllun Iaith Gymraeg yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru; Gweithredu fel pwynt ymholiadau i gwsmeriaid.
Ar gyfer y swydd mae’n rhaid i chi feddu ar:
- 5 TGAU Gradd C neu’n uwch neu gymwysterau cyfatebol e.e. NVQ 2
- Profiad TG o Word ac Excel
- Er nad yw’n hanfodol, croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Gallwn gynnig i chi
- Cyflog dechrau o £15,405 per y flwyddyn i Gynorthwyydd Gweinyddol a £17,465 I Swyddog Gweinyddol (pro rata ar gyfer staff rhan amser)
- Oriau gwaith hyblyg
- Pensiwn anghyfrannol
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â 10½ diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn (pro rata ar gyfer staff rhan amser)
Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech becyn cais am y swydd anfonwch e-bost i: job.vacancies@pins.gsi.gov.uk. Os hoffech dderbyn y ffurflennu mewn fformat arall neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ysgrifennwch i HR Recruitment, 4/07 Kite Wing, Temple Quay House, 2 The Square, Temple Quay, Bristol BS1 6PN neu ffoniwch: 0117 372 6002. Dyfynnwch y rhif cyfeirnod. Nodwch nad ydych yn derbyn CVs. Rhaid dychwelyd ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn dydd Iau 1af Mai.
Becyn Cais
Ffurflen Gais 158kb
Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr 287kb
Ffurflen Deddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd 209kb
Ffurflen Cyfle Cyfartal 130kb
Ffurflen Cenedligrwydd a statws Mewnfudiad 70kb
Ffurflen Datganiad Cofnod Troseddol 75kb
|