Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05Datganiad ar y System Rheolaeth FewnolCwmpas a chyfrifoldebFel Swyddog Cyfrifo, mae gennyf gyfrifoldeb am gynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy'n cefnogi'r broses o gyflawni polisïau, nodau ac amcanion yr Arolygiaeth, tra'n diogelu yr arian cyhoeddus a'r asedau yr wyf i'n gyfrifol amdanynt yn bersonol, yn unol â'r cyfrifoldebau a bennwyd i mi yn 'Government Accounting'. Fe'm penodwyd yn Swyddog Cyfrifo ar gyfer yr Arolygiaeth gan Ysgrifennydd Parhaol a Swyddog Cyfrifo Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog. Ceir dadansoddiad manwl o'n cyfrifoldebau ar y cyd a'n cyfrifoldebau a rennir, gan gynnwys fy nghyswllt â gweinidogion, yn y llythyr penodi. Diben y system rheolaeth fewnolCynllunnir y system rheolaeth fewnol i reoli risg yn rhesymol yn hytrach na dileu pob risg o fethu â chyflawni polisïau, nodau ac amcanion; dim ond sicrwydd rhesymol ac nid sicrwydd pendant o effeithiolrwydd y gall ei ddarparu felly. Mae'r system rheolaeth fewnol yn seiliedig ar broses barhaus a gynllunnir i nodi a blaenoriaethu'r risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion yr Arolygiaeth, i werthuso pa mor debygol ydyw y bydd y risgiau hynny'n codi a'r effaith pe baent yn codi, a'u rheoli mewn modd effeithlon, effeithiol a darbodus. Sefydlwyd y system rheolaeth fewnol hon, yn unol ag arweiniad y Trysorlys, mewn blynyddoedd blaenorol a bu'r system ar waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2005 a hyd at ddyddiad cymeradwyo'r adroddiad blynyddol a'r cyfrifon. Capasiti i ddelio â risgArweinir y broses o reoli risg gan ardystiad y bwrdd o bolisi risg a gweithdrefnau rheoli risg yr Arolygiaeth a thrwy natur strwythurol y mecanwaith cofnodi risg. Yn dilyn argymhelliad adolygiad archwiliad mewnol blaenorol, Uned Cymorth y Prif Weithredwr - CXSU (Y Gangen Cynllunio Corfforaethol yn flaenorol) sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros bolisi risgiau'r Arolygiaeth. Fodd bynnag, yn y bôn, cydnabu mai'r bwrdd theoli a, thrwyddynt hwy, reolwyr gweithredol ar draws y sefydliad, sy'n gyfrifol am y broses o reoli risg. Mae presenoldeb staff yr Uned Cymorth mewn seminarau risg a grwpiau risg adrannol wedi cyfrannu at wybodaeth arbenigol ac wedi galluogi'r broses o ystyried technegau arfer gorau. Mae rhaglen ffurfiol o hyfforddiant rheoli risg ar gyfer rheolwyr wedi'i chwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Y fframwaith risg a rheoliMae gweithdrefnau rheoli risg yr Arolygiaeth yn darparu ar gyfer isafswm o ddau adolygiad bob blwyddyn o'r gofrestr risgiau strategol wedi'u halinio i'r cylch cynllunio busnes blynyddol ac i'r gwaith o gwblhau'r cyfrifon blynyddol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Rheoli, caiff y broses a'r canlyniadau eu hadolygu ymhellach gan y Pwyllgor Archwilio gan sicrhau mewnbwn gan gynrychiolwyr archwilio mewnol ac allanol. Yn ystod 2004, ymgymerwyd â gwaith i ddatblygu'r gofrestr risgiau strategol a'r ffordd y caiff ei monitro a'i diweddaru. Bu'n llwyddiant mawr ac mae'r gwaith wedi cyfrannu at reolaeth fwy effeithiol o risgiau ar lefel y Tîm Rheoli. Swyddogaeth gytûn y Bwrdd Rheoli yw bod yn gyfrifol am nodi a gwerthuso newidiadau i'r risg bresennol. Mae'n rhaid i holl bapurau'r Bwrdd a'r Tîm Rheoli gynnwys asesiad penodol o risg. Caiff pob risg gritigol strategol neu risg fusnes ei throsglwyddo i Gyfarwyddwr unigol ac mae'n ofynnol iddynt weithredu a rheoli'r gwrthfesurau priodol. Mae prosiectau mawr o fewn y sefydliad yn cadw eu cofrestrau risg unigol eu hunain ac maent yn adolygu unrhyw fygythiadau i'r dasg o gwblhau prosiectau yn llwyddiannus fel rhan annatod o'r broses o reoli rhaglenni. Ceir mynediad i'r prosiectau hyn ar lefel y Bwrdd drwy'r Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO). Mae polisi risg yr Arolygiaeth yn cydnabod y bydd parodrwydd sefydliad i fentro yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos. Bydd yr Arolygiaeth yn lleihau risg mewn meysydd strategol er mwyn rheoli risg ym meysydd perfformiad statudol ac ar draws y sefydliad. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff gwerthusiad buddsoddi llawn, sy'n ystyried materion yn ymwneud â rheoleidd-dra a phriodoldeb, ei gynnal ar lefelau priodol ar draws y sefydliad. Adolygu effeithiolrwyddFel Swyddog Cyfrifo, rwy'n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Caiff fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol ei lywio gan waith yr archwilwyr mewnol a'r rheolwyr gweithredol o fewn yr Arolygiaeth sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw'r fframwaith rheolaeth fewnol, a chan sylwadau a wnaed gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac adroddiadau eraill. Rwyf wedi derbyn cyngor ar oblygiadau canlyniad fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan y Bwrdd a'r Pwyllgor Archwilio ac rwy'n bwriadu mynd i'r afael â gwendidau a sicrhau gwelliant parhaol y system. Mae rheolaeth fewnol o fewn yr Arolygiaeth yn parhau i fod yn seiliedig ar fframwaith o wybodaeth rheoli reolaidd, rheoleiddio ariannol, a gweithdrefnau gweinyddol gan gynnwys gwahanu dyletswyddau, goruchwyliaeth gan reolwyr a system o ddirprwyo ac atebolrwydd. Yn arbennig mae hyn yn cynnwys:
Ymhlith y gwelliannau arfaethedig i'r fframwaith rheoli yn y flwyddyn ariannol 2005/06 mae:
Ni nodwyd unrhyw broblemau o ran twyll neu broblemau rheoli difrifol yn ystod y flwyddyn ariannol 2004/2005.
Katrine Sporle
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |