Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Tystysgrif ac Adroddiad Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ'r Cyffredin

Tystiaf fy mod wedi archwilio'r datganiadau ariannol ar dudalennau 42 i 59 o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol fel y'i diwygiwyd drwy adbrisio asedau sefydlog a'r polisïau cyfrifo a nodir ar dudalennau 46 i 59.

Priod gyfrifoldebau'r Arolygiaeth, y Prif Weithredwr, a'r Archwilydd

Fel y disgrifiwyd ar dudalen 36, yr Arolygiaeth a’r Prif Weithredwr sydd yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddyd y Trysorlys a wnaed o dan y Ddeddf honno ac am sicrhau rheoleidd-dra'r trafodion ariannol. Mae’r Arolygiaeth a’r Prif Weithredwr hefyd yn gyfrifol am baratoi cynnwys arall yr Adroddiad Blynyddol. Pennir fy nghyfrifoldebau, fel archwilydd annibynnol, gan statud ac fe’u harweinir gan y Bwrdd Arferion Archwilio a’r arweiniad moesegol sy’n gymwys i’r proffesiwn archwilio.

Byddaf yn adrodd fy marn ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg, ac a chânt eu paratoi’n gywir yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Trysorlys a wnaed o dan y Ddeddf honno, ac a yw’r gwariant a’r incwm ymhob achos perthnasol wedi eu cymhwyso i’r dibenion a fwriadwyd gan y Senedd, ac a yw’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli. Byddaf hefyd yn adrodd os nad yw’r Rhagair, yn fy marn i, yn gyson â’r datganiadau ariannol, os nad yw’r Arolygiaeth wedi cadw cofnodion cyfrifo cywir, neu os nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Darllenaf y wybodaeth arall a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac ystyriaf a yw’n gyson â’r datganiadau ariannol archwiliedig. Ystyriaf y goblygiadau ar gyfer fy nhystysgrif os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysonder perthnasol gyda’r datganiadau ariannol.

Adolygaf a yw’r arweiniad ar dudalennau 37 i 39 yn adlewyrchu cydymffurfiad yr Arolygiaeth ag arweiniad y Trysorlys ar y Datganiad Rheolaeth Fewnol. Byddaf yn adrodd os nad yw’n bodloni’r gofynion a nodwyd gan y Trysorlys, neu os yw’r datganiad yn gamarweiniol neu’n anghyson â gwybodaeth arall rwyf yn ymwybodol ohoni yn sgîl fy archwiliad o’r datganiadau ariannol. Nid yw’n ofynnol i mi ystyried, ac nid wyf wedi ystyried, p’un a yw Datganiad Rheolaeth Fewnol y Swyddog Cyfrifo yn cwmpasu’r holl risgiau a’r rheolaethau. Nid yw’n ofynnol ychwaith i mi fynegi barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethu corfforaethol y Bwrdd na’i weithdrefnau o ran risgiau a rheoli.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw’r gwaith o gynnal a chadw gwefan yr Arolygiaeth a chywirdeb y wefan honno; nid yw’r gwaith a wneir gan yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac unol â hynny nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn gyntaf. (Nodyn yr Archwilwyr: Nid yw’r paragraff hwn wedi’i gynnwys yn y fersiwn argraffedig na’r fersiwn PDF o’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon).

Sail y farn archwilio

Cynhaliwyd fy archwiliad yn unol â Safonau Archwilio y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae archwiliad yn cynnwys archwilio, ar sail prawf, y dystiolaeth sydd yn berthnasol i symiau, datgeliadau a rheoleidd-dra trafodion ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ariannol. Mae hefyd yn cynnwys asesiad o'r amcangyfrifon a’r barnau arwyddocaol a wnaed gan yr Arolygiaeth a'r Prif Weithredwr wrth baratoi'r datganiadau ariannol, a ph'un a yw'r polisïau cyfrifo yn briodol i amgylchiadau'r Arolygiaeth, yn cael eu cymhwyso'n gyson a'u datgelu'n ddigonol.

Cynlluniais a chynhaliais fy archwiliad er mwyn cael yr holl wybodaeth a'r esboniadau a oedd yn angenrheidiol yn fy marn i er mwyn rhoi tystiolaeth ddigonol i mi roi sicrwydd rhesymol bod y datganiadau ariannol yn rhydd o gamddatganiad materol, p'un a fyddai wedi'i achosi drwy gamgymeriad, neu drwy dwyll neu afreoleidd-dra arall a bod y gwariant a'r incwm, ym mhob achos perthnasol, wedi'u cymhwyso i'r dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy’n eu rheoli. Wrth lunio fy marn rwyf hefyd wedi gwerthuso digonolrwydd cyffredinol y modd y cyflwynwyd y wybodaeth yn y datganiadau ariannol.

Barn

Yn fy marn i:

  • rhydd y datganiadau ariannol ddarlun cywir a theg o faterion yr Arolygiaeth Gynllunio ar 31 Mawrth 2005 ac o’r costau gweithredu net, cyfanswm yr enillion a'r colledion cydnabyddedig a'r llif arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny ac maent wedi'u paratoi yn gywir yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a'r cyfarwyddiadau a wnaed o dan y ddeddf honno gan y Trysorlys; ac
  • ymhob achos perthnasol mae'r gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso i’r dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

 

John Bourn
Comptroller and Auditor General

National Audit Office
157–197 Buckingham Palace Road
Victoria
London SW1W 9SP

4 Gorffennaf 2005


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English