Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Cyflog

Yn 2004 cytunwyd ar gytundeb tâl tair blynedd gydag undebau llafur cydnabyddedig yr Arolygiaeth. O dan y cytundeb parheir i fynd i'r afael â materion cyflog cyfartal a bu'n ddatblygiad pellach yn strwythur cymhwysedd yr Arolygwyr. Fodd bynnag, wrth ei wraidd mae cytundeb cynhyrchiant newydd a sicrhaodd gyllid ychwanegol oddi wrth y Trysorlys yn gyfnewid am gynyddu cynhyrchiant 9% rhwng 2004/05 a 2006/07. Bydd y cynhyrchiant gwell yn gyfraniad pwysig i helpu'r Arolygiaeth i gyflawni ei thargedau cyffredinol ar gyfer gwaith achos. Er mwyn hwyluso'r broses o gyrraedd y targedau cynhyrchiant, crëwyd Bwrdd Cynhyrchiant o dan gadeirydd annibynnol, gydag aelodaeth o Reolwyr yr Arolygiaeth ac Undebau Llafur i gynnig arloesedd cynaliadwy i hybu cynhyrchiant. Daeth adroddiadau cyntaf y Bwrdd i'r casgliad y byddai'r targed cynhyrchiant yn cael ei gyflawni yn 2004/05, ond y byddai angen arloesi ymhellach yn 2005/06 a thu hwnt.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English