Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Ansawdd, Heriau yn yr Uchel Lys a Rhyddid Gwybodaeth

Mae Gweinidogion yn ei gwneud yn ofynnol i'r Arolygiaeth fodloni'r Panel Cynghori ar Safonau (APOS) fod ansawdd ei gwaith yn cael ei wneud i safon dda, gyda 99% o waith achos yn rhydd o g yn wedi'i chadarnhau neu her gyfreithiol lwyddiannus. Mae'r Panel, o dan gadeiryddiaeth Corinne Swain OBE, yn rhoi adroddiad blynyddol i Weinidogion ar safonau proffesiynol yn yr Arolygiaeth.

Yn amodol ar gymeradwyaeth APOS mae'r targed ansawdd ar gyfer 2004/05 wedi'i gyflawni, gyda dim ond 0.8% o benderfyniadau yn arwain at g yn wedi'i chadarnhau neu her gyfreithiol lwyddiannus. Mae'r ffigur dros dro hwn o 99.2% yn debyg i'r ffigur a gofnodwyd y llynedd, er gwaethaf cynnydd sylweddol o hyd yn nifer yr apeliadau sy'n dod i law.

Yn ystod y flwyddyn gwnaed 167 o gwynion wedi'u cadarnhau am waith achos yr Arolygiaeth a gwrth-drowyd 37 o benderfyniadau gan y Llysoedd.

Gall c yn wedi'i chyfiawnhau fod yn un o ddau fath:

  • mae "c yn sylweddol wedi'i chyfiawnhau" yn g yn a allai fod wedi effeithio ar ganlyniad yr achos, neu fel arall a allai fod yn niweidiol i fuddiant parti yn nhyb y cyhoedd;
  • mae "mân gw n wedi'i chyfiawnhau" yn un y bernir nad yw wedi effeithio ar ganlyniad yr achos, hy, fel arfer nid yw o fawr bwys.

O'r 167 o gwynion wedi'u cyfiawnhau a ddaeth i law roedd 69 yn "gwynion sylweddol" (41%) ac roedd 98 (59%) yn "fân gwynion".

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae'r tueddiad i herio penderfyniadau ar apeliadau cynllunio yn y Llysoedd wedi gostwng ac mae'r gyfradd yn llai nag 1 penderfyniad o bob 200 erbyn hyn. Daeth yr Arolygiaeth gerbron y llys mewn 19% o heriau yn erbyn penderfyniadau ar apeliadau cynllunio a gorfodi. Lle y cynhaliwyd gwrandawiad ffurfiol ar yr her (hy lle na thynnwyd yr her yn ôl neu lle y daeth yr Arolygiaeth gerbron y llys) amddiffynnodd yr Arolygiaeth 68% o'r heriau'n llwyddiannus.

Roedd canlyniadau'r arolwg diweddaraf o gwsmeriaid unwaith eto yn gadarnhaol ac yn galonogol, yn enwedig o gofio llwyth gwaith trwm yr Arolygiaeth. Eleni, roedd yr arolwg yn cynnwys arolwg drwy'r post a thros y ffôn o 5,500 o gwsmeriaid yr Arolygiaeth, cyfweliadau manwl gyda deg sefydliad a phedwar gr p ffocws, pob un o dan reolaeth ymgynghorwyr annibynnol. Dangosodd yr arolwg fod 64% o gwsmeriaid yr Arolygiaeth naill ai'n fodlon neu'n fodlon iawn ar berfformiad yr Arolygiaeth ar draws yr ystod lawn o'i meysydd busnes. Dros y tri arolwg, mae lefel y boddhad cyffredinol wedi parhau tua'r un peth (yn amrywio o 66% yn 2002 i 64% yn 2004), er bod llwyth gwaith yr Arolygiaeth yn uwch o lawer yn 2004). Cyrhaeddwyd y ganran uchaf o foddhad yn 2003 (75%), cyn lleihad yn y cyfnod apelio o 6 mis i 3 mis arwain at newid mawr yn nifer yr apeliadau heb gynnydd cyfatebol yn adnoddau'r Arolygiaeth.

Er mwyn helpu i fesur safonau ansawdd a chadw ei hymrwymiad i fod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr, mae'r Arolygiaeth wedi aratoi'r "Datganiad Ansawdd" canlynol:

"Mae'r Arolygiaeth Gynllunio'n anelu at:

  • roi cyngor a gwybodaeth yn glir, yn brydlon ac yn gwrtais
  • ymdrin â'ch achos yn gyflym ac yn effeithlon
  • rhoi penderfyniadau teg a diduedd gan bobl â'r cymwysterau priodol
  • rhoi penderfyniadau ac adroddiadau clir a rhesymegol
  • darparu gweithdrefnau cwyno cyflym a thrylwyr
  • rhoi gwasanaeth sy'n ennyn hyder y cyhoedd ynom."

Rhyddid Gwybodaeth

Yn sgîl gweithredu Deddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, mae strategaeth rheoli gwybodaeth yr Arolygiaeth, a gyflwynwyd yn ystod 2004, wedi'i galluogi i ymbaratoi ar gyfer yr angen i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd weld gwybodaeth. Bu hyn yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r hawliau ychwanegol i weld gwybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, o Ionawr 2005 gan gynnwys gwybodaeth a gynhyrchwyd ac a ddaliwyd cyn y dyddiad hwnnw.

Gwnaed defnydd helaeth o wefan yr Arolygiaeth, ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol. Mae'r wefan ( www.planning-inspectorate.gov.uk ) wedi cael ei diweddaru i roi gwybodaeth helaeth i gwsmeriaid ar sut i wneud ceisiadau i weld gwybodaeth yn ogystal â chael hyd i arweiniad a gyhoeddir mewn mannau eraill ar hawliau gwybodaeth - gan gynnwys diogelu data a phreifatrwydd.

Lle y bo'n briodol, rydym wedi'i gwneud yn haws i gwsmeriaid amrywiol yr Arolygiaeth gael gafael ar wybodaeth drwy ddarparu gwybodaeth mewn fformat nad yw'n electronig, lle y bo'n bosibl, megis mewn maint ffont testun bras neu mewn ieithoedd heblaw am Saesneg.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English