Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Dychwelwch nôl dudalen Cynnwys Dudalen nesaf

Atodiad D

Targedau perfformiad allweddol 2006/07 - Cymru - (Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion)

Prydlondeb

a)

Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy gynrychioliadau ysgrifenedig o fewn 16 wythnos.

 

 

 

 

b)

Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy wrandawiadau o fewn 22 wythnos.

 

 

 

 

c)

Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy ymchwiliadau o fewn 30 wythnos.

 

 

 

 

ch)

Penderfynu ar 80% o’r holl apeliadau gorfodi trwy gynrychioliadau ysgrifenedig o fewn 32 wythnos.

 

 

 

 

d)

Penderfynu ar 80% o’r holl apeliadau gorfodi trwy wrandawiadau ac ymchwiliadau o fewn 43 wythnos.

 

 

 

 

dd)

Darparu Arolygydd ar gyfer ymchwiliadau cynlluniau datblygu mewn o leiaf 90% o achosion ar y dyddiad y gwneir cais amdano gan yr awdurdod lleol, ar yr amod nad yw'r cyfnod gwrthwynebu wedi dod i ben a bod o leiaf chwe mis o rybudd wedi ei roi.

 

 

 

 

e)

Cyflwyno 90% o adroddiadau’r Arolygwyr ar ymchwiliadau cynlluniau datblygu i awdurdodau lleol yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt o dan gytundebau gwasanaeth.

 

f)

Ar gyfer ceisiadau a alwyd i mewn ac apeliadau a adferwyd, cwrdd â'r amserlen unigol a bennwyd ar gyfer cyflwyno'r adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol (saith wythnos hyd at wyth diwrnod eistedd ymchwiliad; amserlen gytûn ar gyfer achosion mwy).

 

 

Ansawdd

Bodloni’r Panel Cynghori ar Safonau, ac felly’r Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn flynyddol ac yn dilyn monitro llym, bod safon uchel holl waith yr Arolygiaeth yn cael ei chynnal, a bod 99% o’i gwaith achos yn rhydd o gwynion wedi'u cyfiawnhau.

 

 

Gwybodaeth

Cynnal arolwg boddhad cwsmeriaid o ran perfformiad yr Arolygiaeth a gweithredu ar y canlyniadau.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English