ASESU PA MOR GADARN YW CYNLLUNIAU DATBLYGU LLEOLBydd y dogfennau ymgynghori amgaëedig o ddiddordeb i awdurdodau lleol, asiantau, tirfeddianwyr, trigolion lleol a phobl eraill sy'n debygol o fod yn gysylltiedig ag archwiliadau o Gynlluniau Datblygu Lleol. Yn dilyn cytundeb Gweinidogol, cyn bo hir bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn lansio ymgynghoriad er mwyn casglu sylwadau ar ein cynigion, fel y'u nodir yn y dogfennau hyn, ar gyfer asesu p'un a yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn gadarn, ac ar y broses archwilio ei hun. Mae'r dogfennau ymgynghori hefyd yn cynnwys ffurflenni enghreifftiol a nodiadau canllaw er mwyn helpu i ganolbwyntio sylwadau ar y profion o ran natur gadarn Cynlluniau Datblygu Lleol. Hyd ddechrau'r ymgynghoriad, dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglyn
â'r dogfennau hyn at Chris Sweet o dîm Cynlluniau Datblygu
Lleol yr Arolygiaeth Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 9 Mai 2005, a bydd yn para am 12 wythnos. Bydd yn rhaid cyflwyno ymatebion erbyn dechrau mis Awst 2005. Caiff y papurau ymgynghori eu hanfon at ystod eang o ymgynghoreion, yn cynnwys pob Prif Swyddog Cynllunio yng Nghymru yn ogystal ag ystod o sefydliadau sydd â diddordeb mewn materion cynllunio. Dogfennau YmgynghoriFframwaith
ar gyfer Asesu Cadernid Cynlluniau Datblygu Lleol Fframwaith
ar gyfer Asesu Cadernid Cynlluniau Datblygu Lleol Sut i edrych ar ddogfennau PDFGallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |